Categorïau
Prosiectau

Sut mae mapio yn y Gymraeg?

Cyflwr mapio’r Gymraeg

Buom yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ymchwilio i fapio, daear-leoli a chynllunio teithiau yn y Gymraeg. Dyma’r hyn a ganfuwyd gennym.

Mapio yn Gymraeg

Gofynnodd Trafnidiaeth Cymru inni wneud darn o waith ymchwil ar eu cyfer. Roeddent am wybod sut y gallent adeiladu apiau mapio ar-lein a oedd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Rydym wedi bod yn meddwl am y themau yma am sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn cynnal map iaith Gymraeg o Gymru: openstreetmap.cymru. Fodd bynnag, buodd y prosiect hwn ar gyfer sefydliad sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddwl am oblygiadau’r materion yma. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Trafnidiaeth Cymru sy’n llawn manylion ac sy’n canolbwyntio ar eu hamgylchiadau penodol. Mae’r blogiad yma yn gyfle i gymryd cam yn ôl a meddwl am rai o’r pethau allweddol rydym wedi’u dysgu.

Mae mapio yn gynwydd… yn Saesneg

Os ydych chi am lunio ap trafnidiaeth gyda mapio cefndir slic, daear-leoliad, cynllunio teithiau a llawer o bwyntiau o ddiddordeb, ceir sawl opsiwn cadarn – fel cynwydd.

Ar gyfer y rhan helaeth o ddefnydd, gellir adeiladu apiau mapio digidol yn gyflym – yn rhannol o leiaf – drwy roi gwasanaethau masnachol at ei gilydd sy’n darparu data ar alw (am ffi).

I’r rheini ohonom ar y tîm sy’n cofio pan fu’n rhaid iddynt yrru i gyfrifiadur bach yng Nghaerdydd i wneud rhai tasgau GIS eithaf syml, mae hyn yn drawiadol iawn.

Pan fyddwch chi eisiau’r canlyniadau hynny yn Gymraeg, yn sydyn iawn mae’n mynd yn llawer anoddach.

Dydi Google Maps ddim yn cefnogi’r Gymraeg… ond…

Yn swyddogol, dydi Google Maps ddim yn cefnogi’r Gymraeg.

Oherwydd hyn, os ydych chi’n ddatblygydd sydd am greu ap mapio ar-lein gan ddefnyddio API gan Google Maps, ni allwch ofyn i’r data gael ei ddarparu i chi yn Gymraeg. Dylai hynny ei ddiystyru ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnydd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Ond… Mae Google Maps yn defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd diddorol. Mae’n ymddangos ei fod yn cyfieithu ar liwt ei hun. Er enghraifft: mae’n gwybod bod Prifysgol yr un fath â ‘University’ ac felly os ydych chi’n gofyn Google Maps i chwilio am y term ‘Prifysgol’ yna bydd yn cynnig prifysgolion i chi nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd eang. Buom yn chwilio am dafarn o’r enw ‘Black Horse’ ac fe’m cynigiwyd Y Ceffyl Du. Mae hyn yn eithaf clyfar.

Os ydych chi’n defnyddio Google Maps ar ffôn sydd â’r Gymraeg fel priod iaith, fyddwch chi’n gweld enwau lleoedd Cymraeg ar y map, gan gynnwys yn Lloegr.

Ond, gan nad oes yna gymorth swyddogol, ceir terfynau gwirioneddol i ble y dylid ei ddefnyddio.

Mae Bing yn cynnig llawer mwy o Gymraeg nag yr oeddem wedi sylweddoli

Bing Maps yw platfform mapio Microsoft. Rwy’n siŵr na fyddent yn hoffi cael eu disgrifio fel hyn, ond rwy’n credu y buasai’r rhan fwyaf ohonom yn dweud mai “fersiwn Microsoft o Google Maps” ydyw. Yn wahanol i Google Maps, mae Bing Maps yn cefnogi’r Gymraeg yn swyddogol. Fel defnyddiwr achlysurol gwefan mapiau Bing efallai na fyddwch yn sylwi ar hyn, ond fel datblygydd gallwch newid eich galwadau API i ofyn am ymatebion yn Gymraeg.

Yn gyffredinol, gall datblygydd gweld llawer iawn o Gymraeg mewn gwasanaethau o fapiau Bing. Ar y rhan fwyaf o lefelau gweledol o’r map, gweler enwau dwyieithog i ffyrdd (yn hytrach na’r enw Cymraeg neu’r enw Saesneg) ac mae yna rhai bylchau rhyfedd.

Os oes gennych ofynion syml iawn ar gyfer arddangos pwyntiau ar fap cefndir o Gymru na fydd yn cael ei dominyddu gan enwau Saesneg, mae Bing Maps yn sicr yn werth ystyried.

Fodd bynnag, teimlwn y gallai’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus fynd y tu hwnt i’r hyn y mae Bing yn ei gynnig.

Gall yr Arolwg Ordnans gwneud yn well

Gall cyrff cyhoeddus yng Nghymru ddefnyddio data’r Arolwg Ordnans o dan Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus. Mae data’r Arolwg Ordnans (OS) o ansawdd uchel iawn ac maent yn cynnig amrywiaeth o lawrlwythiadau data ac APIs i gefnogi cyrff cyhoeddus yn eu gwaith.

Ond gallai’r ffordd y mae OS yn ymdrin â’r Gymraeg wella’n fawr.

Mae OS yn cyhoeddi teils: fersiynau electronig yn y bôn o’r mapiau OS rydym yn gyfarwydd â nhw o deithiau cerdded. Mae’r rhain yn cynnwys enwau Cymraeg a Saesneg ond mae polisi OS yn golygu bod enwau Saesneg yn fwy tebygol o ymddangos nag enwau Cymraeg. Nid yw’n bosibl gofyn am deils sy’n dangos enwau Cymraeg yn unig neu lle mae enwau Cymraeg yn fwy tebygol o ymddangos nag enwau Saesneg.

Mae OS hefyd yn darparu setiau data eraill. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys yr enwau Cymraeg a Saesneg ar gyfer nodweddion ond gwelsom fod y ffordd y mae’r data wedi’i labelu yn y setiau data yn aml yn ei gwneud yn anodd nodi beth oedd yr enw Cymraeg a beth oedd yr enw Saesneg.

Mae rhai o’r rhain yn faterion ansawdd data, ac mae eraill yn faterion polisi. Y gobaith yw bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gydag Arolwg Ordnans i weld gwelliannau yn y meysydd hyn.

Yr enw “swyddogol”

Mewn llawer o achosion nid oes ffynhonnell amlwg, swyddogol o’r enw Saesneg a’r enw Cymraeg am le, ar gyfer nant, coedwig neu ardal.

Mae’n ei gwneud hi’n anodd mesur pa mor dda yw cwmpas map. Yn syml, nid oes set ddata “gywir” i’w chymharu. Mewn sawl ffordd mae hyn yn un o gryfderau’r Gymraeg, sydd wir yn iaith fyw, felly gelwir pethau yn ôl defnydd yr holl bobl sy’n defnyddio’r iaith.

Wedi dweud hynny, mae angen rheolau ar gyfrifiaduron, ac wrth i ni ddefnyddio mapiau ar gyfrifiaduron yn fwyfwy mae’r angen am rai rheolau ynghylch enwau Cymraeg yn tyfu.

Mae ein map iaith Gymraeg yn seiliedig ar gronfeydd data OpenStreetMap a Wikidata a olygwyd gan y gymuned. Mae ein hymchwilwyr yn awgrymu bod y setiau data hyn yn debygol o barhau’n rhan o’r gymysgedd o ran enwi lleoedd a nodweddion, o leiaf, cystadleuwyr masnachol. Rydym yn annog pobl i gyfrannu at y setiau data hyn.

Crynodeb

Ar hyn o bryd;

  • Mae’n syml iawn adeiladu cymwysiadau mapio gwe yn Saesneg
  • Nid yw’n syml o gwbl adeiladu apiau mapio gwe yn Gymraeg. Mae’n bosibl eu hadeiladu yn Gymraeg serch hynny.
  • Hoffem annog cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill sy’n gwasanaethu pobl Cymru i ystyried sut y gallant adeiladu cymwysiadau mapio dwyieithog. Po fwyaf o sefydliadau sy’n gweithio ar y broblem hon, y mwyaf o atebion a gaiff eu datblygu.

Byddwn yn parhau i weithio ar y maes hwn a byddem wrth ein bodd yn clywed gan eraill sydd â chwestiynau neu syniadau am y Gymraeg a mapio dwyieithog.

Hoffem ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am gomisiynu’r gwaith hwn ac am ganiatáu i ni rannu’r crynodeb hwn o’r pethau a ganfuwyd gennym o ganlyniad i’r prosiect.