Enwau Cymraeg ar OpenStreetMap: polisïau golygu

Mae wici OpenStreetMap yn cynnwys llawer o ganllawiau a chyngor i unrhyw sydd eisiau ychwanegu at y map fel adnodd.

Mae unrhyw un yn y byd yn gallu cyfrannu enwau Cymraeg at OSM. Rydyn ni’n meddwl bod rhai ystyriaethau pwysig i gadw mewn cof.

Felly dyma ymgais i greu cyfres ddrafft o bolisïau golygu. Maen nhw yn byw ar Google Drive ar hyn o bryd. Yn yr hir dymor efallai bod modd eu rhoi ar wici OpenStreetMap os fydd y cymuned ehangach yn fodlon. Yn y cyfamser mae croeso cynnes i chi gynnig adborth i ni arnyn nhw. Mae croeso i chi gysylltu â ni neu adael sylw ar y ddogfen.