Categorïau
Canllawiau Cerrig milltir

Gwella enwau ffyrdd ar fapiau Cymraeg yng Nghymru

“Safwn yn y bwlch”

Un o brif amcanion prosiect Mapio Cymru yw cynyddu’r nifer o enwau yn Gymraeg a gedwir ar OpenStreetMap fel data agored, adnodd hollbwysig er mwyn cefnogi apiau a gwasanaethau mapio a fydd ar gael yn Gymraeg yn y dyfodol.

Y ‘bwlch’ mwyaf yn nata data enwau yn OpenStreetMap yng Nghymru yw’r enwau ffyrdd y dylid eu defnyddio yn Gymraeg. Mae’r data yma’n cael ei gadw gan yr holl awdurdodau lleol ac yn cael ei drosglwyddo i GeoPlace sy’n defnyddio’r data yn y Rhestr o Enwau Strydoedd (National Street Gazetteer / NSG). Mae GeoPlace hefyd yn cyflenwi’r data i’r Arolwg Ordnans ar gyfer cynhyrchion perthnasol.

‘Open Roads’ v NSG

Mae set ddata Arolwg Ordnans, OS Open Roads*, yn cynnwys data enwau ac mae wedi’i chodio i ddarparu’r enw priodol yn Saesneg a Chymraeg. Wrth archwilio’r cynnyrch hwn, mae tîm Mapio Cymru wedi bod yn pryderu am weld anghysondebau yn y data a’r hyn sy’n ymddangos fel problemau ansawdd data o’i gymharu ag arwyddion ar lawr gwlad. Am y rheswm yma, roedden ni wedi gwrthsefyll defnyddio OS Open Roads yr Arolwg Ordnans fel ffynhonnell nes i ni allu deall yr anghysondebau hyn ー a phenderfynu a oeddent yn arwyddocaol.

Yn ddelfrydol, y set ddata awdurdodol ar gyfer enwau ffyrdd yw’r National Street Gazetteer / NSG. Mae hyn ar gael i gyrff cyhoeddus o dan Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (Public Sector Geospatial Agreement / PSGA), ond nid yw’r NSG ar gael i’w weld nac ei ail-ddefnyddio gan eraill mewn modd sy’n hwylus.

Cymharu data agored yr Ordnans â’r NSG

Wedi i ni lofnodi cytundeb is-gontractwr gyda Llywodraeth Cymru, cawson fynediad at fersiwn o’r NSG ar gyfer Cymru, a’u galluogodd i ddarparu CSV syml i ni sy’n cynnwys enwau strydoedd a ffyrdd yn Gymraeg, yr un enwau yn Saesneg yn ogystal â’r USRN [sef Unique Street Reference Number, neu gyfeirnod stryd unigol].

Cyfunom y set ddata hon â chynnyrch Open Roads yr Arolwg Ordnans (AO), a rhoddodd y cyfle i ni gymharu data enwau rhwng y setiau data.
Ar gyfer Cymru gyfan, lle mae enw yn ymddangos yn Open Roads AO mae’n union gyfateb i’r cynnwys yn y NSG 66 tro o bob 100.

Roedd y gyfradd gwall yma’n achos pryder. I ddadansoddi hyn yn fanylach, gwnaethom hidlo’r data i gynnwys ffyrdd Powys yn unig.
Ym Mhowys, lle mae enw yn ymddangos yn Open Roads, mae’n union gyfateb i’r gwerthoedd yn yr NSG ar raddfa o 73%.

O’r achosion lle mae enw yn ymddangos yn Open Roads ond nid yw’n union gyfatebol i’r gwerthoedd yn yr NSG:

  • Mae 32% yn enwau gwahanol ac mae’n anodd casglu unrhyw reswm dros y gwahaniaeth
  • Mewn 27% o achosion mae’r NSG yn cynnwys disgrifiad yn hytrach nag enw. Er enghraifft: mae USRN 85320327 yn ymddangos fel ” PRIVATE STREET MAES MAESMAENDU TO MAES-Y-FFYNNON LINK ROAD” yn y maes Cymraeg yn NSG a “HEOL Y FFYNNON” yn Open Roads AO. Mae’n ymddangos bod set ddata yr Ordnans yn cynnwys enwau strydoedd sy’n cael eu harddangos ar arwyddion, ond nad sy’n ymddangos yn NSG. Mae’n debyg bod hyn oherwydd mai ymchwilwyr yr Ordnans sy’n ychwanegu’r data ar lawr gwlad.
  • Mewn 18% o achosion mae’n ymddangos i ni fel pe bai ansawdd data Open Roads sy’n ddiffygiol. Er enghraifft: USRN 85318006 yn ymddangos fel “CLOS BURGESS” yn Gymraeg yn NSG a “BURGESS CLOSE” yn Open Roads
  • Mewn 14% o achosion mae’r gwahaniaeth rhwng NSG ac Open Roads (O.R.) yn deillio o ddefnydd o fannau, cysylltnodau, collnodau ac ati. Er enghraifft: Mae USRN 85319893 yn ymddangos fel “DAN Y CASTELL” yn Gymraeg yn NSG a “DAN-Y-CASTELL” yn O.R.
  • Roedd yr 8% sy’n weddill o achosion yn gymysgedd o wahanol faterion eraill.

Ydy Open Roads yn ddigonol?

* does dim fersiwn Cymraeg ar enw Open Roads yn anffodus. Mae’n amhosibl i ddarganfod yr enw ar y we heb yr enw Saesneg, sy’n ein hatgoffa bod nifer fawr o’r penderfyniadau pwysig am fapio yn digwydd tu hwnt i Gymru.

Ar ôl dadansoddi’r gwahaniaethau amrywiol hyn, rydym wedi dod i’r casgliad bod set ddata Open Roads yr Arolwg Ordnans yn ffynhonnell ddigon da ar gyfer golygu pellach gan unigolion brwd. Buasai golygydd sy’n weddol gyfarwydd ag enwau ffyrdd yn Gymraeg yn gallu canfod llawer o’r problemau uchod a’u cywiro.

Er mwyn arddangos hyn, dyma ddefnyddio Open Roads fel ffynhonnell i ychwanegu enwau Cymraeg at ffyrdd yn Aberhonddu, Powys.

Dyma oedd ein map cyn i ni ddechrau arni:

Map o Aberhonddu cyn i ni ddechrau ar y gwaith o Gymraeg-io'r strydoedd gyda'r data agored newydd.

A dyma oedd y map ar ôl i ni ychwanegu enwau Cymraeg strydoedd Aberhonddu.

Map o Aberhonddu wedi i ni ddechrau ar y gwaith o Gymraeg-io'r strydoedd gyda'r data agored newydd.

…ble welwch chi nifer o enwau ffyrdd yn Gymraeg.

Un o’r pethau a allai fod ychydig yn ysgytwol am y broses hon yw ei bod yn ychwanegu llawer o enwau Saesneg i’r map – sydd i glywed yn beth od wrth geisio gwella map Cymraeg, ond dyna yw’r sgil-effaith fel petai!

Y gwir yw bod nifer o enwau Saesneg yn cael eu defnyddio yn y Gymraeg. Pan fyddwn yn creu ein map Cymraeg (mae’n waith beunyddiol i ni ar hyn o bryd diolch i nawdd adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru) rydym ni’n labelu nodweddion gyda’r enw y defnyddir yn Gymraeg.

Petawn ni’n cymharu ein map uchod â’r un olygfa ar y gweinydd openstreetmap.org [sydd, yng Nghymru, yn parhau i ddangos yr enwau a ddefnyddir yn Saesneg], gwelwn fod llawer o enwau ffyrdd yr un peth – ond nid pob un.

Map o strydoedd Aberhonddu.

Yn fwyaf arbennig, mae Lôn Bupren yn ymddangos ar y map Cymraeg ond yn ymddangos fel Peppercorn Lane ar y map Saesneg. Mae’r enwau ffyrdd eraill yn aros yr un fath oherwydd bod ganddynt yr un enw yn Gymraeg a Saesneg.

Eleni byddwn yn ymdrechu unwaith eto i wella labeli enwau ffyrdd yn OpenStreetMap.

Os ydych chi’n olygydd OpenStreetMap, safwch yn y bwlch gyda ni ac ewch ati i olygu!

* does dim fersiwn Cymraeg ar enw Open Roads yn anffodus. Mae’n amhosibl i ddarganfod yr enw ar y we heb yr enw Saesneg, sy’n ein hatgoffa bod nifer fawr o’r penderfyniadau pwysig am fapio yn digwydd tu hwnt i Gymru.