Categorïau
Cerrig milltir

Dewch i Weithdy Mapio Cymru, Y Lle Hanes, Eisteddfod AmGen 2021

DIWEDDARIAD: Dyma fideo y digwyddiad.

Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg.

Mae’r gwaith yn berthnasol i addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned – a hanes.

Bydd y trefnwyr yn disgrifio sut mae’r prosiect yn manteisio ar adnoddau agored a rhydd ar y we megis OpenStreetMap a Wicipedia/Wikidata, a’r hyn rydych chi’n gallu gwneud i gymryd rhan yn yr hwyl.

Nid oes angen unrhyw brofiad na dealltwriaeth o flaen llaw, dim ond chwilfrydedd!

dydd Iau 5ed Awst 2021
3PM tan 4PM
https://eisteddfod.zoom.us/j/5795483521?pwd=UTlwemdaa0pMU1VGSWw4aU93UmVKQT09
ID: 579 548 3521
Cyfrinair: 674244

Mae’r gweithdy Zoom hwn wedi ei drefnu gan brosiect Mapio Cymru mewn cydweithrediad â’r Lle Hanes.

Categorïau
Cerrig milltir

Dal i fapio!

Mae ein tîm Mapio Cymru wedi bod yn gweithio yn di-dor ar wella’r nifer o enwau Cymraeg sydd ar-lein ers ein cychwyn cyntaf yn 2017 dan nawdd prosiect Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050, a nawr rydym yn hapus iawn i gyhoeddi y byddwn ni yn cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol eleni ar agweddau newydd o’r gwaith.

 

Gan y Llyfrgell Genedlaethol dipyn o brofiad o dorfoli prosiectau, a rhwng nawr ac Ebrill 2022 byddwn yn gobeithio torfoli nifer o agweddau o’r gwaith:

 

sicrhau bod eitemau Wikidata â data enwau lleoedd safonol Comisiynydd y Gymraeg yr un peth ac os felly eu dangos ar Open StreetMap Cymru (OSM Cymru)

 

Cynnal digwyddiadau cyhoeddus Wikidata-OSM Cymru,e.e.

 

Wici’r Holl Ddaear, golygathonau mewn ysgolion (dewch i gyswllt os am wahodd ni draw!) a chasglu clipiau sain o enwau lleol

 

Yn ogystal â thorfoli’r prosiect, byddwn hefyd yn defnyddio Wikidata i storio a rhannu gwybodaeth Gymraeg. Mae Wikidata yn chwaer-brosiect i Wikipedia, a byddwn yn manteisio ar y cyfoeth o ddata Cymraeg sydd eisoes yn y set ddata enfawr yma i wella ar y map o ran y data craidd sydd gennym ar flaenau ein bysedd. Yn ogystal â defnyddio’r Wikidata presennol rydym yn bwriadu ychwanegu rhwng 5,000 a 10,000 o gofnodion data newydd gyda labeli Cymraeg, ar gyfer pethau fel bryniau, mynyddoedd, llynnoedd a gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod y rhain yn cael eu harddangos ar y map Cymraeg ar OSM.  Bydd Menter Iaith Món yn arwain ar cyfres o digwyddiadau mewn ysgolion i gwella cynnwys Wicipedia Cymraeg am lleoedd lleol

 

Trwy wneud cysylltiadau rhwng prosiectau Wici ac OSM gallwn helpu i adeiladu map Cymraeg cyfoethocach, gyda mwy o ddata a mwy o ffyrdd i ddefnyddwyr archwilio’r data hwnnw yn Gymraeg.

 

Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn darparu fframwaith i ddatblygwyr a sefydliadau sydd am adeiladu gwasanaethau mapio digidol yn yr iaith Gymraeg.

 

Yn ogystal, erbyn diwedd y prosiect eleni, symudwn ymhell i’r dyfodol ac i awyr las y cysyniad o boblogi SatNav, fel oedd yn denu tipyn o sylw yn ystod ein blwyddyn cyntaf.

 

Pa fath o gamau ychwanegol sydd eu hangen er mwyn i gwmni allanol ychwanegu’r Gymraeg at yr ieithoedd cefnogir gan SatNav?

 

Mae Mapio Cymru, fel OpenStreetMap ei hun, yn ei hanfod yn brosiect cymunedol ble mae pobl o wahanol ardaloedd yn cydweithio ar https://osm.org ; sydd yn ei tro yn bwydo ein map Cymraeg ni https://openstreetmap.cymru felly os oes chwant gyda chi wybod mwy neu weithio ar agwedd arall o’r gwaith o ychwanegu at yr enwau Cymraeg sydd yn bodoli ar-lein – ac felly sy’n diogelu ein hanes a’n diwylliant ac yn wir ein hetifeddiaeth – yna dewch i gyswllt ar bob cyfrif:

ar yr hashnod #mapioCymru ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ebost mapiocymru@dailingual.com

Categorïau
Cerrig milltir

Mae Mapio Cymru bellach yn llwytho’n gyflymach. Dyma beth wnaethon ni i gyflymu’r gweinydd

Rydyn ni’n adeiladu map cyhoeddus agored o Gymru gyda’r holl enwau yn Gymraeg. Mae’r map bellach yn llwytho’n gyflymach i chi oherwydd gwaith diweddar.

Dyma beth wnaethon ni i wella cyflymder llwytho’r map.

Pan rydych chi’n llwytho’r map, rydych chi’n gweld grid o deiliau. Mae pob un yn ffeil delwedd sgwâr, fel hwn:

Dyma ddarn bach o Dyddewi ar lefel chwyddo 17.

Mae llyfrgell JavaScript o’r enw Leaflet yn rheoli eich llywio o amgylch y map (tremio a chwyddo). Y prif bwynt yw taw delweddau sy’n gwneud y map.

Mae’r delweddau teil yn cael eu rendro o ddata map o fewn OpenStreetMap, sydd yn cael eu cadw fel pwyntiau, llwybrau, a pherthnasau. Yn ogystal â’r data, mae’r pentwr meddalwedd a ddatblygwyd gan brosiect OpenStreetMap wedi ei drwyddedu’n rhydd.

Wrth fynd ati i ddangos map cyfredol i ddefnyddiwr, trawsnewid data i ddelweddau yw’r darn o’r gwaith sydd yn cymryd y rhan fwyaf o amser. Fel arfer mae hyn yn digwydd tra bod y defnyddiwr yn llwytho’r map, mae’r gweinydd yn cynhyrchu a darparu’r delweddau, ac yn eu cadw mewn storfa hefyd.

Pe tasai’r map yn orffenedig a therfynol byddai hynny’n help. Gallen ni sicrhau bod yr holl ddelweddau teil ar y gweinydd, wedi eu rendro a chadw, a darparu nhw bob tro. Ond nid yw hynny’n opsiwn ar gyfer y map cyfan am gwpl o resymau.

Ar hyn o bryd mae map Mapio Cymru yn cael ei ddiweddaru unwaith bob nos tra bod y mwyafrif ohonom yn cysgu, ac mae capasiti’r gweinydd yn dueddol o fod yn uwch. Mae angen y diweddariadau achos mae nodweddion map daearyddol ac enwau yn newid yn aml, bob tro mae rhywun yn golygu OpenStreetMap. Fel arfer mae hyn yn welliant i’r map, e.e. rhywun yn ychwanegu enw i nodwedd. Mae’r elfennau data agored yn cael ei ddiwygio’n gyson, fel Wicipedia y maes mapio. Mae’r golygiad yn gallu bod yn ymateb i rywbeth sy’n newid yn y byd corfforol, e.e. caffi yn newid ei enw, neu orsaf drên hyfryd newydd sbon…!

Felly nid oes modd i ni gadw’r map mewn aspig, mae’n newid trwy amser.

Mae rhwystr arall i’r syniad o rendro a chadw’r holl fap i gyflymu llwytho. Mae set gwahanol o deiliau ar bob lefel chwyddo. Ar y lefelau mwyaf pell mae’n bosib cadw’r holl ddelweddau. Ond ar lefelau chwyddo agosach, mae’r nifer o deiliau’n tyfu’n esbonyddol. Yn fuan mae angen llwythi o amser a le storio, sydd yn fwy nag sydd gyda ni.

Er enghraifft oedd Cymru gyfan ar lefel chwyddo 17 yn cymryd ychydig dros saith awr i’w rendro dros nos. Mae hynny’n ormod o amser.

Oes modd i ni rendro a chadw rhai teiliau dethol, a rendro rhai eraill ar-elw. Oes, fel mae’n digwydd. Yr her yw i benderfynu beth i’w rendro am y mantais cyflymder mwynaf, wrth ystyried cyfyngiadau amser a storfa.

Beth yw’r ardaloedd map o ‘ddiddordeb’ neu ‘berthnasedd’, a sut ydyn ni’n gallu bod yn fwy fanwl pendant am hyn?

I ddechrau, roedd gennym ragdybiaeth y byddai’r ardaloedd â phoblogaeth wasgaredig yn cael eu hymweld ar y map yn llai aml nag ardaloedd poblog iawn. Un dull fyddai rendro ardaloedd uwchlaw trothwy dwysedd poblogaeth penodol.

Yna sylweddolais fod datrysiad arall yn llawer mwy parod i fynd, a hyd yn oed yn well. Gallem gyfeirio at geisiadau porwr agregedig am deiliau i weld pa rannau o’n map yr ymwelwyd â hwy fwyaf. Mae hyn yn caniatáu i ni edrych ar boblogrwydd hanesyddol ardaloedd hyd at lefel teiliau unigol. Roedd hwn yn ddata a oedd gennym eisoes, o fewn logiau gweinydd.

Dyma fap gwres a gynhyrchwyd gan Ben Proctor.

Map gwres o flwyddyn o ymweliadau ar bob lefel chwyddo.

Mae’n ymddangos bod yr ardaloedd poblogaidd yn cyfateb i ddwysedd y boblogaeth. Efallai y bydd perthynas hefyd â nifer a/neu ganran y siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd, sydd ar gael o ddata’r Cyfrifiad.

Dw i wedi cyfarwyddo’r gweinydd i rendro’r teiliau a’u storio. Rydym wedi dewis yr ardaloedd hyn:

Mae lefelau chwyddo 3 i 16 bellach wedi’u rendro’n llwyr.

Mae lefelau chwyddo 17 a 18 bellach wedi’u rendro’n rhannol.

Nawr mae’r gweinydd yn rendro’r ardaloedd hyn yn awtomatig bob nos, yn syth ar ôl mewnforio’r data cyfoes.

Roedd y gwahaniaeth yn amlwg iawn pan wnes i lwytho’r wefan cyn ac ar ôl y newid. Cyn hyn, roeddwn i wedi codi cywilydd braidd am yr ardaloedd gwag enfawr a rhewi cyson y map, tra bod y gweinydd yn baglu ymlaen. Dw i ddim yn cael y profiad hynny bellach – o leiaf am y tro!

Ar gyfartaledd, mae teiliau yn llwytho mewn 40% o’r amser os maen nhw wedi eu rendro ymlaen llaw. Mae hynny’n welliant syfrdanol, er bod graddfa’r cyflymu yn ddibynnol iawn ar faint o ddefnyddwyr sy’n cyrchu’r gweinydd ar unwaith.

Mae hyd yn oed teiliau nad ydynt wedi’u rendro ymlaen llaw yn llwytho’n gyflymach oherwydd mae mwy o gapasiti ar y gweinydd fel arfer.

Gyda llaw, mae rhedeg y gweinydd yn llyfn hefyd yn dibynnu ar ddewis y gosodiadau cywir. (Gwnaethom ystyried nginx fel dewis arall yn lle Apache ond ymddengys nad oes ganddo modiwl addas fel mod_tile.)

Wrth i ni ennill mwy o ddiddordeb a defnyddwyr ar gyfer y map dw i’n disgwyl y bydd yn rhaid i mi ymweld â hyn eto. Mae eich cyfraniadau at gostau prosiect bob amser yn ddefnyddiol.

Categorïau
Cerrig milltir

Mynd am Dro yn y Fro i

MYND AM DRO YN Y FRO
Hanes yr Arth?
Pe baech wedi arfer â gyrru o Gaerdydd i Bentyrch – er mwyn gwrando ar gyn-gystadleuydd rhaglen realiti yn canu er enghraifft, neu i geisio dod o hyd i’r defaid sydd yn ôl pob son yn crwydro’r mynydd cyfagos – fe ddowch chi yn gyntaf i’r garth; i waelod y garth i ddweud y gwir sydd wrth gwrs wrth ymyl pentref Gwaelod-y-Garth.
Dylai’r enw yna canu cloch, ac yn wir yn y cyd-destun hwnnw mae’r term ‘garth’ ddim yn teimlo’n estron iawn , hyd yn oed i bobl nad sydd yn byw yn ardal Penarth ym Mro Morgannwg.
Dydw i heb ddod o hyd i’r union le fy hunan, ond dychmygaf fod “mynydd” chwedlonol Pentyrch yn dod i ben wrth ddibyn y garth, neu ben y garth fel petai.  [ Ond beth yn union yw ‘garth’ medde chi – rhowch sylw isod os am wybod neu os yn gwybod !! ]
A thrwy hynny fel gwelwch chi nawr yn ddi-os tarddiad yr enw Penarth, neu Pen-y-garth fel yr amlygir gan yr Ysgol Gynradd Gymraeg leol o’r radd flaenaf.
Ar siwmperi’r ysgol honno, gwelir y geiriau
“Gorau Awen Gwirionedd”
a dyna fydd y golofn hon yn ceisio bob wythnos /
mis wrth gyflwyno enw pentrefi a threfi Bro Morgannwg yn eu cyd-destun hanesyddol; gwir pob gair, ac mewn gwirionedd ceir yr hanesion gorau…ydy’r gobaith!
Felly, os ydych chi’n gwybod tarddiad enw gwreiddiol eich
pentref, rhowch wybod : cysylltwch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #mapioCymru.
Mae’r blog yma yn fersiwn newydd o erthygl ymddangosodd yn gyntaf ym mhapur newydd The Glamorgan GEM ar dudalennau Menter Bro Morgannwg ym mis Ionawr 2015.
Categorïau
Cerrig milltir

Cartref newydd Mapio Cymru

Dyma gartref newydd Mapio Cymru lle rydym yn trin a thrafod mapio yn Gymraeg.

Ewch i openstreetmap.cymru i weld y map.

Rhowch arian i ddatblygiad gwasnaethau mapio Cymraeg.