Categorïau
Cerrig milltir

Adrodd strydoedd yn Gymraeg!

Adrodd Strydoedd yn Gymraeg!

Bydd defnyddwyr Cymraeg FixMyStreet, y gwasanaeth ar gyfer adrodd problemau stryd ac amgylcheddol lleol, nawr yn gallu gwneud hynny gan ddefnyddio map Cymraeg a ddarparwyd gan Mapio Cymru.

Yr haf hwn, gallwch adrodd goleuadau stryd sydd wedi torri, tipio anghyfreithlon, tyllau a phroblemau lleol eraill yng Nghymru i’r awdurdod cywir yn y Gymraeg am y tro cyntaf drwy FixMyStreet, y gwasanaeth adrodd hir-sefydlog ar gyfer problemau stryd ac amgylcheddol a ddarperir gan yr elusen technoleg ddinesig mySociety.

Mae FixMyStreet yn ap gwe blaengar sy’n galluogi dinasyddion ledled y Deyrnas Unedig i adrodd problemau lleol i’r awdurdod sy’n gyfrifol am eu trwsio, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siŵr ym mha awdurdod lleol ydynt. Am y tro cyntaf ers ei lansio yn 2007, bydd defnyddwyr yng Nghymru sydd am wneud adroddiadau yn Gymraeg yn gallu gweld fersiwn Gymraeg o’r wefan a’r ap, gan gynnwys map Cymraeg wedi’i ddarparu gan Mapio Cymru.

Wedi’i lansio yn 2019, mae Mapio Cymru yn brosiect sy’n darparu map uniaith Gymraeg o Gymru ac sy’n ceisio sicrhau bod gwasanaethau mapio cystal yn y Gymraeg ag y maent yn Saesneg gan ddefnyddio ffynonellau data agored. Mae Mapio Cymru yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i wella gwasanaethau mapio yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Wyn Williams o dîm Mapio Cymru: “Ein nod yw gwneud hi’n haws i sefydliadau ddarparu gwasanaethau mapio Cymraeg o’r safon uchaf. Felly, ry ni wrth ein boddau bod technoleg mapio digidol mySociety i’w gweld arlein yn y Gymraeg, priod iaith miloedd o bobl sy’n byw yng Nghymru ̶ a’r gobaith yw ̶ miliwn o bobl erbyn 2050.”

Gall defnyddwyr Cymraeg ddechrau defnyddio’r fersiwn Gymraeg o FixMyStreet yn syth drwy fynd i FixMyStreet.com neu lawrlwytho ap FixMyStreet. Am gyfweliad neu wybodaeth bellach am waith Mapio Cymru a Fix My Street, cysylltwch gyda Wyn Williams ar wyn AT mapio DOT Cymru .

Mwy am #mapioCymru

Ceir ambell i fwlch ym map Cymraeg Mapio Cymru oherwydd bod y prosiect yn dibynnu ar wirfoddolwyr a chyrff cyhoeddus i gyfrannu enwau Cymraeg diffiniol. Gall gwirfoddolwyr helpu lenwi’r bylchau drwy ychwanegu’r enwau Cymraeg ar gyfer nodweddion ar y map (adeiladau, ffyrdd, mynyddoedd, caeau ac yn y blaen). Gall cyrff cyhoeddus helpu i lenwi’r bylchau drwy gyhoeddi’r enwau Cymraeg sydd ganddynt ar gyfer nodweddion o dan drwydded agored. Mae tîm Mapio Cymru ar gael i roi cyngor ar y materion hyn. Am fanylion pellach, cysylltwch trwy’r wefan mapio.cymru neu’r hashnod #mapioCymru.

Mwy o FixMyStreet

Cafodd FixMyStreet ei hadeiladu i’w gwneud hi’n haws i ddinasyddion adrodd am broblemau yn eu cymunedau. Mae FixMyStreet yn ap gwe blaengar annibynnol, rhad ac am ddim, a adeiladwyd gan yr elusen mySociety i alluogi dinasyddion y DU i adrodd, gweld a thrafod problemau lleol. Anfonir yr holl adroddiadau a wneir trwy FixMyStreet yn uniongyrchol at yr awdurdod sy’n gyfrifol am ddatrys y broblem, a all wedyn ymateb i’r gwneuthurwr adroddiadau i’w diweddaru ar statws ei benderfyniad. Mae adroddiadau a’u hymatebion hefyd yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ar y map i gynyddu tryloywder o fewn cymuned.

Mae’r feddalwedd ffynhonnell agored ar gael i’w defnyddio’n fyd-eang (gweler fixmystreet.org), neu mae fersiwn Pro wedi’i chynnal a’i hintegreiddio’n llawn y gall cynghorau neu awdurdodau cyhoeddus eraill dalu ffi flynyddol a ddarperir gan is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r elusen, SocietyWorks (gweler societyworks.org). Rydym yn falch iawn o allu gwneud y gwasanaeth yn hygyrch i ddinasyddion Cymraeg eu hiaith, gyda phroses adrodd wedi’i chyfieithu’n llawn a map Cymraeg sydd yn galluogi defnyddwyr i ddewis enwau strydoedd a lleoliadau y maent yn gyfarwydd â hwy. Edrychwn ymlaen at weld fersiwn Gymraeg y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan fwy o ddinasyddion sy’n poeni am wella lle maen nhw’n byw.

Ynglŷn â mySociety

Mae mySociety yn sefydliad dielw sy’n ceisio adfywio democratiaeth, gan roi mwy o rym i fwy o bobl drwy greu technolegau a data digidol. Ewch i mysociety.org am fwy o wybodaeth.

Mae Mapio Cymru yn brosiect Cwmni Buddiannau Cymunedol Data Orchard sy’n derbyn cymorth ariannol i gynnal y map Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Cysylltwch gyda post AT mapio DOT cymru am fwy o wybodaeth.

Cwmni Buddiannau Cymdeithasol a menter gymdeithasol yw Data Orchard CIC sy’n helpu sefydliadau i ddefnyddio data ar gyfer penderfyniadau gwell ac effeithlon. Mae Data Orchard CIC yn cyfuno sgiliau arbenigol mewn ymchwil, ystadegau a data gydag angerdd i greu byd gwell yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Am fwy o wybodaeth: dataorchard.org.uk

Categorïau
Cerrig milltir

Mapio Map swyddogol Cymru o Gymru!

Openstreetmap.cymru yn cyrraedd  Map Data Llywodraeth Cymru

Eleni, mae tîm Mapio Cymru, a ariennir gan #Cymraeg2050, wedi parhau i weithio ar eu map data agored o Gymru sy’n seiliedig ar ddata OpenStreetMap, wici y byd mapiau.  Yn awr, maent yn rhan o bartneriaeth gyda thîm Map Data Cymru Llywodraeth Cymru i greu platfform cyffrous newydd .

Mae gan Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru Glyn Jones angerdd gwirioneddol am ddata digidol, a bydd ei Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru yn rhoi,

“…y ffocws gwirioneddol ar brofiad y defnyddiwr. Mae data geo-ofodol yn hollbwysig ac wrth wraidd y Strategaeth Ddigidol. Rydyn ni’n edrych ar ddatblygu sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes a fydd yn dechrau yn ysgol.” Yn ôl Glyn Jones, mae gwaith Mapio Cymru gyda thîm newydd Map Data Cymru,”… yn enghraifft flaenllaw o’r hyn rydyn ni’n edrych i’w gyflawni” gyda 365 o setiau data, un ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn!

Gan fod openstreetmap.cymru bellach yn haenen bwysig ar fap swyddogol newydd Cymru, “mae’n enghraifft dda iawn o weithio mewn partneriaeth, gan sicrhau profiad dwyieithog i’r defnyddiwr”.

“Lle’r oedd diffyg data mapio iaith Gymraeg, mae gennym Map Data Cymru bellach  ac rydym yn falch iawn ohono. Gyda’r gwaith hwn, rydym wedi dangos beth y gall gydweithio ei gyflawni.”

Y gobaith yw, y bydd y map newydd hefyd yn arbed arian yn y sector cyhoeddus; “yn hytrach na phawb yn cynhyrchu mapiau eu hunain, maen nhw nawr yn gallu defnyddio Data Map Cymru!”

Am ragor o wybodaeth, neu gyfweld Carl Morris ac/neu Wyn Williams o mapio.cymru cysylltwch post@mapio.cymru .

DELWEDDAU

Dyma Map Data Cymru!

Dyma sut i ddewis ein map ni ar wefan newydd Map Data Cymru!

Dyma Mapio Cymru ar Map Data Cymru!