Categorïau
Canllawiau

Teclynnau llinell orchymyn i chi greu map OpenStreetMap yn Gymraeg

Mae’r holl god rydym yn defnyddio ar gyfer y gweinydd map Cymraeg Mapio Cymru ar gael bellach mewn ystorfa.

Bydd hi o ddiddordeb yn enwedig os ydych chi eisiau darparu gweinydd eich hunain sydd yn cynhyrchu teiliau map yn Gymraeg (neu efallai iaith wahanol o’ch dewis). Mae’r holl god wedi’i drwyddedu dan GPL, sydd yn caniatau i chi’i redeg at unrhyw bwrpas, ei newid, a’i ailddosbarthu.

Nodwch fod angen gwybodaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio Linux trwy’r llinell orchymyn.

Y prif declyn yn yr ystorfa yw’r sgript cartonamecy2name.lua sydd yn rhedeg tra’n mewnforio data. Mae’n penderfynu ar yr enw i’w gadw yn y gronfa ddata, ar gyfer unrhyw endid ar y map. Data OSM yw prif ffynhonell Mapio Cymru, y tagiau name:cy a name yn enwedig, ac hefyd gwybodaethau enwau Wikidata trwy’r tag OSM wikidata. Trwy olygu’r ffynhonellau hyn rydym hefyd yn edrych at ddata agored wrth Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae llawer mwy o fanylion yn y ffeil README yn yr ystorfa, gan gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam.

Os ydych chi eisiau defnyddio map Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, anwybyddwch yr uchod ac ewch i openstreetmap.cymru!

Categorïau
Cerrig milltir

Mapio Map swyddogol Cymru o Gymru!

Openstreetmap.cymru yn cyrraedd  Map Data Llywodraeth Cymru

Eleni, mae tîm Mapio Cymru, a ariennir gan #Cymraeg2050, wedi parhau i weithio ar eu map data agored o Gymru sy’n seiliedig ar ddata OpenStreetMap, wici y byd mapiau.  Yn awr, maent yn rhan o bartneriaeth gyda thîm Map Data Cymru Llywodraeth Cymru i greu platfform cyffrous newydd .

Mae gan Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru Glyn Jones angerdd gwirioneddol am ddata digidol, a bydd ei Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru yn rhoi,

“…y ffocws gwirioneddol ar brofiad y defnyddiwr. Mae data geo-ofodol yn hollbwysig ac wrth wraidd y Strategaeth Ddigidol. Rydyn ni’n edrych ar ddatblygu sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes a fydd yn dechrau yn ysgol.” Yn ôl Glyn Jones, mae gwaith Mapio Cymru gyda thîm newydd Map Data Cymru,”… yn enghraifft flaenllaw o’r hyn rydyn ni’n edrych i’w gyflawni” gyda 365 o setiau data, un ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn!

Gan fod openstreetmap.cymru bellach yn haenen bwysig ar fap swyddogol newydd Cymru, “mae’n enghraifft dda iawn o weithio mewn partneriaeth, gan sicrhau profiad dwyieithog i’r defnyddiwr”.

“Lle’r oedd diffyg data mapio iaith Gymraeg, mae gennym Map Data Cymru bellach  ac rydym yn falch iawn ohono. Gyda’r gwaith hwn, rydym wedi dangos beth y gall gydweithio ei gyflawni.”

Y gobaith yw, y bydd y map newydd hefyd yn arbed arian yn y sector cyhoeddus; “yn hytrach na phawb yn cynhyrchu mapiau eu hunain, maen nhw nawr yn gallu defnyddio Data Map Cymru!”

Am ragor o wybodaeth, neu gyfweld Carl Morris ac/neu Wyn Williams o mapio.cymru cysylltwch post@mapio.cymru .

DELWEDDAU

Dyma Map Data Cymru!

Dyma sut i ddewis ein map ni ar wefan newydd Map Data Cymru!

Dyma Mapio Cymru ar Map Data Cymru!