Categorïau
Canllawiau

Teclynnau llinell orchymyn i chi greu map OpenStreetMap yn Gymraeg

Mae’r holl god rydym yn defnyddio ar gyfer y gweinydd map Cymraeg Mapio Cymru ar gael bellach mewn ystorfa.

Bydd hi o ddiddordeb yn enwedig os ydych chi eisiau darparu gweinydd eich hunain sydd yn cynhyrchu teiliau map yn Gymraeg (neu efallai iaith wahanol o’ch dewis). Mae’r holl god wedi’i drwyddedu dan GPL, sydd yn caniatau i chi’i redeg at unrhyw bwrpas, ei newid, a’i ailddosbarthu.

Nodwch fod angen gwybodaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio Linux trwy’r llinell orchymyn.

Y prif declyn yn yr ystorfa yw’r sgript cartonamecy2name.lua sydd yn rhedeg tra’n mewnforio data. Mae’n penderfynu ar yr enw i’w gadw yn y gronfa ddata, ar gyfer unrhyw endid ar y map. Data OSM yw prif ffynhonell Mapio Cymru, y tagiau name:cy a name yn enwedig, ac hefyd gwybodaethau enwau Wikidata trwy’r tag OSM wikidata. Trwy olygu’r ffynhonellau hyn rydym hefyd yn edrych at ddata agored wrth Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae llawer mwy o fanylion yn y ffeil README yn yr ystorfa, gan gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam.

Os ydych chi eisiau defnyddio map Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, anwybyddwch yr uchod ac ewch i openstreetmap.cymru!

Categorïau
Digwyddiadau

Mapio Cymru yn FOSS4G: Defnyddio teclynnau Switch2OSM i adeiladu map Cymraeg

Roedd hi’n bleser cael cymryd rhan mewn cynhadledd FOSS4G yng Nghaerdydd heddiw.

Dyma recordiad o fy nghyflwyniad trwy gyfrwng y Saesneg a’r sleidiau – am ddarparu gweinydd Mapio Cymru.

Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb i bobl sydd am wella mapio mewn ieithoedd â llai o adnoddau o gwmpas y byd. Yn ogystal, bydd hi’n well i unrhyw un sydd eisiau gweld tŵf OpenStreetMap yn gyffredinol dalu sylw i agweddau amlieithog y prosiect – yn fy marn i.

Diolch i’r holl gyfranogwyr a threfnwyr am ddiwrnod addysgiadol iawn yn FOSS4G!

Categorïau
Digwyddiadau

Anerchiad Mapio Cymru mewn cynhadledd FOSS4G

Oes gennych chi ddiddordeb yn y feddalwedd gweinydd ac agweddau data tu ôl i Mapio Cymru ac OpenStreetMap? Os oes, dewch i fy sgwrs yn FOSS4G.

FOSS4G yw’r Gynhadledd Feddalwedd Rydd Ryngwladol ar gyfer pethau Geo-ofodol. Eleni mae’n digwydd ar ddydd Iau 17eg mis Tachwedd mewn sawl safle corfforol ar draws gwledydd Prydain ar yr un pryd – gan gynnwys Caerdydd lle byddaf i.

Fel Mapio Cymru rydym wedi rhannu ein gwersi a’n brwdfrydedd mewn sawl digwyddiad ac wedi trefnu rhai digwyddiadau ein hunain, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Y tro hwn bydd fy sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg. Dw i’n mynd i ganolbwyntio ar yr ochr mwy technegol – beth sy’n digwydd ar y gweinyddion, ynghyd â rhywfaint o gyd-destun am sefyllfa’r Gymraeg i’r rhai sydd ddim yn ymwybodol.

Byddaf yn trafod sut rydym wedi adeiladu map Cymraeg o Gymru, pa heriau technegol a heriau eraill rydym wedi’u hwynebu, beth fydd y camau nesaf, ac yn rhannu ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer mynd â mapio yn Gymraeg i bawb.

Gobeithio bydd rhywun yn cael eu hysbrydoli i gyfrannu at fapio yn y Gymraeg neu OpenStreetMap fel prosiect ehangach, neu ddechrau menter eu hunain – efallai ar gyfer iaith arall sydd â llai o adnoddau.

Dw i newydd glywed bod nifer isel o docynnau ar ôl i gangen Caerdydd o’r digwyddiad. Bydd modd i chi wylio’r recordiad wedyn fel opsiwn arall.

Categorïau
Cerrig milltir

Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru i’ch helpu chi i rannu mwy o enwau llefydd Cymraeg

Mae Mapio Cymru bellach yn cynnal map arbrofol i chi bori, sydd yn gyfateb i’r prif fap.

Mae’r map hwn yn edrych yn eithaf tebyg i’r prif fap, ond mae’n cael ei letya ar weinydd ar wahan dw i wedi darparu ar ei gyfer:

pwlltywod.mapio.cymru

Edrychwch yn fanwl ac fe gewch chi weld bod yr holl enwau llefydd ychydig yn wahanol.

Pam gwneud hyn? Y prif bwrpas yw i ganfod bylchau yn y data ar gyfer enwau Cymraeg. Mae unrhyw enw yn gallu dilyn sawl ffordd i’r prif fap. Mae’r map yn cymryd data oddi wrth OpenStreetMap a Wikidata, ac wedyn yn ei brosesu. Roedden ni fel prosiect Mapio Cymru eisiau cyfleu ffynhonnell y data ar fap, ond ar wahân i’r prif fap.

Ar hyn o bryd mae pedair ffynhonnell wedi eu nodi ar allwedd y map arbrofol:

  • Wrth maes name:cy (OpenStreetMap)
  • Wrth maes name (OpenStreetMap) – er nad yw’r enw wedi ei labeli fel Cymraeg mae’n edrych fel bod e yn Gymraeg, yn ôl meini prawf penodol. Dw i angen blogio am y meini prawf yn fuan.
  • Wrth Wikidata
  • Ni chafwyd enw addas (ar hyn o bryd)

Nodwch fod yr allwedd yn gallu newid yn y dyfodol. Edrychwch ar y map a’i allwedd am fanylion.

Ni fydd modd i chi gwneud popeth rydych chi’n gallu gwneud gyda’r prif fap, fel chwilio a mewnosod yn hawdd.

Yr hyn rydych chi’n gallu gwneud yw pori’r map arbrofol i ganfod diffygion ac wedyn golygu OSM i fewnbynnu enwau mewn achosion lle mae’r data yn anghyflawn.

Bydd eich newidiadau yn ymddangos ar y prif fap a’r map arbrofol.

Yn y pen draw, bydd yr enw rydych chi’n fewnbynnu yn ymddangos mewn llu o apiau a phrosiectau, diolch i’w statws data agored. Dw i’n falch o gynnig yr adnodd fel ffordd o helpu unrhyw un sydd eisiau rhannu enwau llefydd Cymraeg. Diolch eto i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith.

Pwll Tywod yw enw’r gweinydd map arbrofol. Mae hyn wedi ei ddinodi gyda’r lliw tywod o’i amgylch. Mae’r defnydd o’r term yn cyfleu ein bod yn chwarae gyda’i ymddangosiad. Esgusodwch unrhyw namau technegol byddech chi’n gweld ar y map arbrofol – ond dyna’r pwynt.

Categorïau
Sylwebaeth

Enwau Cymraeg am adeiladau Gradd I o Fôn i Fynwy – eich cyfraniad plîs!

Mae oddeutu 493 o adeiladau rhestredig Gradd I yng Nghymru megis Castell Cyfarthfa, Carchar Biwmares, Adeilad y Pierhead a mwy.

Mae Gradd I yn golygu bod nhw o ‘ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer’. Nid ni sydd yn penderfynu ar y rhestr derfynol yn anffodus!

Ond mae dros 100 o adeiladau Gradd I ar fap Mapio Cymru sydd heb label Cymraeg, ac mae’n hawdd i ni sicrhau bod yr enwau Cymraeg ar gael i bawb.

Allech chi helpu?

  1. Ewch i’r rhestr o adeiladau rhestredig Gradd I sydd angen enwau Cymraeg. Os nad ydych chi’n gweld enw adeilad Gradd I mae’n debyg bod rhywun wedi rhannu’r enw yn barod.
  2. Os ydych chi’n gwybod yr enw safonol yn Gymraeg ar gyfer unrhyw adeilad rhowch yr enw yn y golofn ‘Cymraeg’.
  3. Ewch yn ôl i bwynt 2 os ydych chi’n gwybod mwy nag un enw.
  4. Dyna ni!

Wedyn byddwn yn rhoi’r enwau mewn cronfa OpenStreetMap ar eich rhan – i bawb ddysgu a defnyddio, ac ar y map wrth gwrs.

Llun gan WelshDave (CC BY-SA)

Categorïau
Cerrig milltir

Dadgoloneiddio mapiau Cymru: amlygu enwau llefydd Wikidata yn Gymraeg

Mae Mapio Cymru fel prosiect wedi bod yn gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddar i amlygu’r holl enwau llefyd yn Gymraeg sydd o fewn cronfa Wikidata, a gwella nhw.

Mae canoedd o enwau wrth Wikidata ar y map bellach yn ogystal ag enwau oddi wrth OpenStreetMap (OSM).

Dyma Jason Evans o’r llyfrgell yn ymhelaethu ar y gwaith a’i bwysigrwydd:

[…]

Mae cyfuno Wikidata ag OSM yn caniatáu inni adeiladu ar waith Mapio Cymru, sydd wedi bod yn datblygu map o Gymru gan ddefnyddio’r data Cymraeg a gedwir yng nghronfa ddata OSM. Trwy alinio a chyfuno hyn â Wikidata gall y map ddechrau tyfu ymhellach, gan gynnig mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae hyn yn bwysig. Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fwtaniadau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael ei ailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.

Nod y prosiect hwn yw dadgoloneiddio mapio yng Nghymru, nid trwy ddileu enwau lleoedd Saesneg o’r cofnod ond trwy gynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr weld ac archwilio map modern o Gymru trwy gyfrwng Cymraeg yn unig – gwasanaeth nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd tan y lansiad o Mapio Cymru.

Felly’r her gyntaf gyda’r prosiect hwn mewn gwirionedd yw annog cymunedau i gyfrannu eu henwau Cymraeg lleol i OSM neu Wikidata fel y gellir eu cynnwys ar y map, a gwneir hyn trwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau golygu. […]

Darllenwch yr erthygl cyfan ar flog y Llyfrgell Genedlaethol.

Categorïau
Sylwebaeth

Fideo: Beth yw problemau what3words?

Mae cwmni nid-er-elw-yn-anfwriadol what3words wedi bod yn prynu slotiau hysbysebu eto. Mae tipyn o sylw wedi bod yn y wasg hefyd, sydd yn dueddol o beidio herio ac yn lle hyrwyddo’n ddi-gwestiwn.

Fe ffeindiais y fideo diddorol hwn sydd yn rhestru sawl gwendid gyda’r cwmni a’i system.

Un problem yn enwedig o safbwynt tîm Mapio Cymru yw’r diffyg trwyddedu agored o’r data a meddalwedd, fel y soniwyd yn y fideo – ac fel canlyniad, y diffyg adolygiad gan gydweithwyr o’r system.

Mae’r dryswch ynghlwm â newid o un system iaith i’r llall yn achos pryder i ni hefyd.

Gweler hefyd: Achubwyr yn cwestiynu defnydd o what3words mewn argyfwng (BBC, Saesneg)

Categorïau
Canllawiau Digwyddiadau

FIDEO: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Hei! Dyma’r fideo o Weithdy Mapio Cymru ar 5ed Awst 2021 yn ystod Eisteddfod AmGen.

Yn fras dyma raglen y fideo yn ôl codau amser – gydag ambell i ddolen berthnasol:

  • 0:00 Cyflwyniad i brosiect Mapio Cymru ac OpenStreetMap
  • 18:00 Map o leoliadau Eisteddfod Genedlaethol
  • 25:00 Cyflwyniad i’n defnydd o Wikidata
  • 32:00 Helpwch gyflawni’r rhestr o adeiliadau rhestredig Gradd I yng Nghymru (dal angen help ar y rhestr plîs!)
  • 46:35 Sgwrs gyffredinol: am enwau caeau, lle i roi enwau, a phwysigrwydd dosbarthu enwau dan drwyddedau rhydd ar gyfer y dyfodol

Diolch o galon i Eisteddfod AmGen a’r Lle Hanes am y croeso, ac wrth gwrs i bawb a gymerodd rhan yn y gweithdy!

Categorïau
Digwyddiadau

Dewch i Weithdy Mapio Cymru, Y Lle Hanes, Eisteddfod AmGen 2021

DIWEDDARIAD: Dyma fideo y digwyddiad.

Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg.

Mae’r gwaith yn berthnasol i addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned – a hanes.

Bydd y trefnwyr yn disgrifio sut mae’r prosiect yn manteisio ar adnoddau agored a rhydd ar y we megis OpenStreetMap a Wicipedia/Wikidata, a’r hyn rydych chi’n gallu gwneud i gymryd rhan yn yr hwyl.

Nid oes angen unrhyw brofiad na dealltwriaeth o flaen llaw, dim ond chwilfrydedd!

dydd Iau 5ed Awst 2021
3PM tan 4PM
https://eisteddfod.zoom.us/j/5795483521?pwd=UTlwemdaa0pMU1VGSWw4aU93UmVKQT09
ID: 579 548 3521
Cyfrinair: 674244

Mae’r gweithdy Zoom hwn wedi ei drefnu gan brosiect Mapio Cymru mewn cydweithrediad â’r Lle Hanes.

Categorïau
Cerrig milltir

Mae Mapio Cymru bellach yn llwytho’n gyflymach. Dyma beth wnaethon ni i gyflymu’r gweinydd

Rydyn ni’n adeiladu map cyhoeddus agored o Gymru gyda’r holl enwau yn Gymraeg. Mae’r map bellach yn llwytho’n gyflymach i chi oherwydd gwaith diweddar.

Dyma beth wnaethon ni i wella cyflymder llwytho’r map.

Pan rydych chi’n llwytho’r map, rydych chi’n gweld grid o deiliau. Mae pob un yn ffeil delwedd sgwâr, fel hwn:

Dyma ddarn bach o Dyddewi ar lefel chwyddo 17.

Mae llyfrgell JavaScript o’r enw Leaflet yn rheoli eich llywio o amgylch y map (tremio a chwyddo). Y prif bwynt yw taw delweddau sy’n gwneud y map.

Mae’r delweddau teil yn cael eu rendro o ddata map o fewn OpenStreetMap, sydd yn cael eu cadw fel pwyntiau, llwybrau, a pherthnasau. Yn ogystal â’r data, mae’r pentwr meddalwedd a ddatblygwyd gan brosiect OpenStreetMap wedi ei drwyddedu’n rhydd.

Wrth fynd ati i ddangos map cyfredol i ddefnyddiwr, trawsnewid data i ddelweddau yw’r darn o’r gwaith sydd yn cymryd y rhan fwyaf o amser. Fel arfer mae hyn yn digwydd tra bod y defnyddiwr yn llwytho’r map, mae’r gweinydd yn cynhyrchu a darparu’r delweddau, ac yn eu cadw mewn storfa hefyd.

Pe tasai’r map yn orffenedig a therfynol byddai hynny’n help. Gallen ni sicrhau bod yr holl ddelweddau teil ar y gweinydd, wedi eu rendro a chadw, a darparu nhw bob tro. Ond nid yw hynny’n opsiwn ar gyfer y map cyfan am gwpl o resymau.

Ar hyn o bryd mae map Mapio Cymru yn cael ei ddiweddaru unwaith bob nos tra bod y mwyafrif ohonom yn cysgu, ac mae capasiti’r gweinydd yn dueddol o fod yn uwch. Mae angen y diweddariadau achos mae nodweddion map daearyddol ac enwau yn newid yn aml, bob tro mae rhywun yn golygu OpenStreetMap. Fel arfer mae hyn yn welliant i’r map, e.e. rhywun yn ychwanegu enw i nodwedd. Mae’r elfennau data agored yn cael ei ddiwygio’n gyson, fel Wicipedia y maes mapio. Mae’r golygiad yn gallu bod yn ymateb i rywbeth sy’n newid yn y byd corfforol, e.e. caffi yn newid ei enw, neu orsaf drên hyfryd newydd sbon…!

Felly nid oes modd i ni gadw’r map mewn aspig, mae’n newid trwy amser.

Mae rhwystr arall i’r syniad o rendro a chadw’r holl fap i gyflymu llwytho. Mae set gwahanol o deiliau ar bob lefel chwyddo. Ar y lefelau mwyaf pell mae’n bosib cadw’r holl ddelweddau. Ond ar lefelau chwyddo agosach, mae’r nifer o deiliau’n tyfu’n esbonyddol. Yn fuan mae angen llwythi o amser a le storio, sydd yn fwy nag sydd gyda ni.

Er enghraifft oedd Cymru gyfan ar lefel chwyddo 17 yn cymryd ychydig dros saith awr i’w rendro dros nos. Mae hynny’n ormod o amser.

Oes modd i ni rendro a chadw rhai teiliau dethol, a rendro rhai eraill ar-elw. Oes, fel mae’n digwydd. Yr her yw i benderfynu beth i’w rendro am y mantais cyflymder mwynaf, wrth ystyried cyfyngiadau amser a storfa.

Beth yw’r ardaloedd map o ‘ddiddordeb’ neu ‘berthnasedd’, a sut ydyn ni’n gallu bod yn fwy fanwl pendant am hyn?

I ddechrau, roedd gennym ragdybiaeth y byddai’r ardaloedd â phoblogaeth wasgaredig yn cael eu hymweld ar y map yn llai aml nag ardaloedd poblog iawn. Un dull fyddai rendro ardaloedd uwchlaw trothwy dwysedd poblogaeth penodol.

Yna sylweddolais fod datrysiad arall yn llawer mwy parod i fynd, a hyd yn oed yn well. Gallem gyfeirio at geisiadau porwr agregedig am deiliau i weld pa rannau o’n map yr ymwelwyd â hwy fwyaf. Mae hyn yn caniatáu i ni edrych ar boblogrwydd hanesyddol ardaloedd hyd at lefel teiliau unigol. Roedd hwn yn ddata a oedd gennym eisoes, o fewn logiau gweinydd.

Dyma fap gwres a gynhyrchwyd gan Ben Proctor.

Map gwres o flwyddyn o ymweliadau ar bob lefel chwyddo.

Mae’n ymddangos bod yr ardaloedd poblogaidd yn cyfateb i ddwysedd y boblogaeth. Efallai y bydd perthynas hefyd â nifer a/neu ganran y siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd, sydd ar gael o ddata’r Cyfrifiad.

Dw i wedi cyfarwyddo’r gweinydd i rendro’r teiliau a’u storio. Rydym wedi dewis yr ardaloedd hyn:

Mae lefelau chwyddo 3 i 16 bellach wedi’u rendro’n llwyr.

Mae lefelau chwyddo 17 a 18 bellach wedi’u rendro’n rhannol.

Nawr mae’r gweinydd yn rendro’r ardaloedd hyn yn awtomatig bob nos, yn syth ar ôl mewnforio’r data cyfoes.

Roedd y gwahaniaeth yn amlwg iawn pan wnes i lwytho’r wefan cyn ac ar ôl y newid. Cyn hyn, roeddwn i wedi codi cywilydd braidd am yr ardaloedd gwag enfawr a rhewi cyson y map, tra bod y gweinydd yn baglu ymlaen. Dw i ddim yn cael y profiad hynny bellach – o leiaf am y tro!

Ar gyfartaledd, mae teiliau yn llwytho mewn 40% o’r amser os maen nhw wedi eu rendro ymlaen llaw. Mae hynny’n welliant syfrdanol, er bod graddfa’r cyflymu yn ddibynnol iawn ar faint o ddefnyddwyr sy’n cyrchu’r gweinydd ar unwaith.

Mae hyd yn oed teiliau nad ydynt wedi’u rendro ymlaen llaw yn llwytho’n gyflymach oherwydd mae mwy o gapasiti ar y gweinydd fel arfer.

Gyda llaw, mae rhedeg y gweinydd yn llyfn hefyd yn dibynnu ar ddewis y gosodiadau cywir. (Gwnaethom ystyried nginx fel dewis arall yn lle Apache ond ymddengys nad oes ganddo modiwl addas fel mod_tile.)

Wrth i ni ennill mwy o ddiddordeb a defnyddwyr ar gyfer y map dw i’n disgwyl y bydd yn rhaid i mi ymweld â hyn eto. Mae eich cyfraniadau at gostau prosiect bob amser yn ddefnyddiol.