Dyma Phil Blake yn esbonio tarddiad enw Bryngwran, a thipyn o hanes Tafarn yr Iorwerth hefyd.
Ydych chi’n ymddiddori’n fawr mewn safleoedd bws, gorsafoedd trên, porthladdoedd fferi, a nodau trafnidiaeth eraill?
Efallai eich bod yn adeiladu ap neu wasanaeth trafnidiaeth, neu’n edrych ar ddarpariaeth a hygyrchedd trafnidiaeth mewn ardal benodol. Neu efallai eich bod yn berson chwilfrydig.
Beth yw NaPTAN?
Os ydych chi’n dal i ddarllen gadewch i mi ymhelaethu am NaPTAN sydd yn rhestr faith o bwyntiau mynediad at drafnidiaeth. Mae’r rhestr yn cynnwys safleoedd bws, gorsafoedd trên, safleoedd tram, metro, tanddaearol, awyr a fferi, ac yn cynnwys gwybodaeth lleoli.
Er mai ystyr NaPTAN yw “National Public Transport Access Nodes”, mae hi’n cynnwys Cymru, Lloegr, a’r Alban. Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) llywodraeth San Steffan sy’n ei chynnal, drwy gasglu data o wahanol awdurdodau, a’u cyhoeddi fel data agored dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Ble mae’r Gymraeg?
Yn ddiweddar rydym wedi clywed am newid mewn NaPTAN. Y newyddion yw bod hi’n cynnwys enwau lleoedd yn Gymraeg. Yn y gorffennol roedd y rhain yn anghyflawn os oedden nhw yn bodoli ar y rhestr o gwbl.
Edrychwch at fersiwn XML o’r data. Cewch lawrlwytho’r data wrth wefan NaPTAN neu drwy’r API. Chwiliwch am y priodoledd xml:lang=”cy”, lle taw “cy” yw’r cod iaith ISO 639-1 am y Gymraeg. Dyma enghraifft:
<StopPoint CreationDateTime="2000-01-01T00:00:00" ModificationDateTime="2024-05-02T09:51:14" Modification="revise" RevisionNumber="5" Status="active"> <AtcoCode>5810AWC51266</AtcoCode> <NaptanCode>swajgpd</NaptanCode> <Descriptor> <CommonName>Morriston Library</CommonName> <ShortCommonName>Library</ShortCommonName> <Landmark>Morriston Library</Landmark> <Street>Pentrepoeth Road</Street> <Crossing>Treharne Road</Crossing> <Indicator>o/s</Indicator> </Descriptor> <AlternativeDescriptors> <Descriptor CreationDateTime="2024-05-02T09:51:15" ModificationDateTime="2024-05-02T09:51:15" Modification="new"> <CommonName xml:lang="CY">Llyfrgell Treforys</CommonName> </Descriptor> </AlternativeDescriptors> <Place> <NptgLocalityRef>E0054717</NptgLocalityRef> <LocalityCentre>true</LocalityCentre> <Location> <Translation> <GridType>UKOS</GridType> <Easting>266970</Easting> <Northing>198253</Northing> <Longitude>-3.924981045</Longitude> <Latitude>51.667255647</Latitude> </Translation> </Location> </Place> <StopClassification> <StopType>BCT</StopType> <OnStreet> <Bus> <BusStopType>MKD</BusStopType> <TimingStatus>OTH</TimingStatus> <MarkedPoint> <Bearing> <CompassPoint>NW</CompassPoint> </Bearing> </MarkedPoint> </Bus> </OnStreet> </StopClassification> <AdministrativeAreaRef>056</AdministrativeAreaRef> <PlusbusZones> <PlusbusZoneRef CreationDateTime="2000-01-01T00:00:00" ModificationDateTime="2012-07-06T00:00:00" Modification="new" RevisionNumber="0" Status="active">SWANSEA</PlusbusZoneRef> </PlusbusZones> </StopPoint>
Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 24633 o feysydd data sy’n cynnwys data Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn enwau nodau. Ar yr olwg gyntaf mae ystod o enwau o “Canolfan Iechyd Blaendulais” (safle bws) i “Gorsaf reilffordd Penarlag” i enwau brand sy’n trosgynnu iaith megis “Tesco” (sawl safle bws).
Fe gewch chi weld y cod iaith “gd” neu “GD” am Gaeleg yr Alban hefyd.
Mae hi’n debygol bod y nifer o enwau Cymraeg yn amrywio fesul ardal awdurdod lleol.
Gadewch i ni wybod ar bob cyfrif os ydych chi’n wneud unrhyw beth gyda’r data.
Gwahaniaeth yn y CSV
Am ryw reswm nid yw’r fersiwn CSV sydd ar gael yn cynnwys enwau a nodwyd fel rhai Cymraeg. Mae’r maes CommonName yn cynnwys yr enw a ddefnyddiwyd yn Saesneg fel arfer (gydag ychydig o eithriadau). Gobeithio bydd y CSV yn cael ei ddiweddaru gan yr Adran Drafnidiaeth i gynnwys yr holl enwau a data Cymraeg, yn y meysydd priodol.
Adborth
Nodwch fod hyn yn edrych fel gwaith cyfredol a bod yn enwau ac union leoliadau o arosfannau yn gallu cael eu hadolygu neu newid. Os oes gennych adborth ar y data ei hun yna dylech chi fod ei anfon at feedbacktraveline@tfw.wales
Diolch
Diolch i’n cysylltiadau yn Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi dod â’r newid hwn at ein sylw, ac am eu holl gefnogaeth a gwaith tuag at wasanaethau mapio Cymraeg.
Tŷ tafarn ti ar y map!
Gellir llywio map ar-lein Cymraeg Llyw Cymru…
Mae cwpl o bobl wedi gofyn i mi sut i ddefnyddio Mapio Cymru fel map sylfaen ar eu gwefannau, apiau, a systemau eraill. Mae hyn yn ffordd dda o ddarparu map o Gymru yn Gymraeg i ymwelwyr i’ch gwefan.
Yn y bôn maen nhw eisiau dangos ein teiliau map, sef y delweddau PNG sydd ar gael trwy openstreetmap.cymru.
Wedyn rydych chi’n gallu gwneud beth bynnag y mae’ch system yn caniatau megis panio, chwyddo, ac hyd yn oed rhoi piniau, siapiau, delweddau a phethau eraill ar y map.
Mewnosod
Cyn i ni fwrw ymlaen, mae’r hyn sy’n dilyn wedi’i anelu at rywun sydd yn gyfforddus i godio, cynnal system, neu ddefnyddio meddalwedd system gwybodaeth ddaearyddol.
Os NAD ydych chi eisiau trafferthu gyda ffyrdd o osod map sylfaen mae modd mewnosod Mapio Cymru ar wefan. Dyma’r ffordd mwyaf gyflym a syml siŵr o fod. Mae’n debyg iawn i’r ffordd byddai rhywun yn mewnosod chwaraewyr fideos ac ati (trwy iframe).
Ewch i openstreetmap.cymru a chliciwch Rhannu am fanylion ar sut i wneud hyn. Rydych chi’n gallu cael cod mewnosod HTML neu ddolen uniongyrchol at olygfa benodol o’r map.
Pa systemau?
Bydd gweddill y blogiad yma yn cyflwyno sut i osod Mapio Cymru fel map sylfaen – i bobl sydd eisiau bod ychydig yn fwy technegol.
Mae eithaf tipyn o systemau sydd yn cynnig gosod map sylfaen o’ch dewis, megis llawer o bethau sydd yn rhedeg Leaflet.js, e.e. Overpass Turbo.
Er enghraifft mae ambell i ategyn WordPress sydd yn eich hwyluso dangos mapiau ar eich gwefan – megis Leaflet Maps Marker, WP Go Maps, ac eraill.
Os oes gennych y sgiliau gallech chi greu gwefan o’r newydd gyda Leaflet.js a defnyddio Mapio Cymru fel sylfaen. Yn anffodus mae’r manylion ar sut i wneud hyn yn mynd tu hwnt i’r canllaw bach yma heddiw, ond mae canllawiau ar y we!
Mae hefyd meddalwedd pen bwrdd sydd yn defnyddio mapiau sylfaen o’ch dewis megis QGIS.
I rai sydd â diddordeb mae penynnau CORS gweinydd Mapio Cymru bellach yn caniatau defnydd uniongyrchol o deiliau. Nodwch fod rhai systemau rheoli cynnwys yn dangos rhybudd diogelwch am sgriptio traws-wefan (‘cross-site scripting’) yn yr achos yma.
Y gosodiadau hollbwysig
Defnyddiwch y cyfeiriad isod fel y map sylfaen neu ‘base map’:
https://openstreetmap.cymru/osm_tiles/{z}/{x}/{y}.png
Hefyd os oes rhaid rhoi lefelau o chwyddo, rhowch 3 fel y lleiafswm a 16 fel y mwyafswm.
Dyma briodoliad neu gredit dylech chi roi er mwyn cydymffurfio ag amodau trwyddedu agored data OpenStreetMap. Dyma’r fersiwn HTML:
Defnyddiwch <a href=”https://www.openstreetmap.cymru” target=”_blank”>openstreetmap.cymru</a>. Data ar y map Ⓗ Cyfranwyr <a href=”https://openstreetmap.org” target=”_blank”>osm.org</a>
Fel arall dyma’r fersiwn testun plaen:
Defnyddiwch openstreetmap.cymru. Data ar y map © Cyfranwyr osm.org
Rhannwch
Os ydych chi wedi llwyddo i gael y map ar eich gwefan neu system, gadewch sylw gyda’r dulliau rydych chi’n defnyddio os gwelwch yn dda – a dolen i’r tudalen penodol ar eich gwefan os oes modd.
Termau
Byddwch yn barchus a rhesymol gyda eich defnydd o weinydd Mapio Cymru. Cysylltwch os ydych chi eisiau trafod defnydd ‘mawr’ ohonom fel gwasanaeth dibynadwy, yn enwedig os ydych chi’n sefydliad neu brosiect sylweddol.
Bydd rhaid i ni adolygu sut mae hyn yn mynd os fydd yr alw yn tyfu.
Adrodd strydoedd yn Gymraeg!
Adrodd Strydoedd yn Gymraeg!
Bydd defnyddwyr Cymraeg FixMyStreet, y gwasanaeth ar gyfer adrodd problemau stryd ac amgylcheddol lleol, nawr yn gallu gwneud hynny gan ddefnyddio map Cymraeg a ddarparwyd gan Mapio Cymru.
Yr haf hwn, gallwch adrodd goleuadau stryd sydd wedi torri, tipio anghyfreithlon, tyllau a phroblemau lleol eraill yng Nghymru i’r awdurdod cywir yn y Gymraeg am y tro cyntaf drwy FixMyStreet, y gwasanaeth adrodd hir-sefydlog ar gyfer problemau stryd ac amgylcheddol a ddarperir gan yr elusen technoleg ddinesig mySociety.
Mae FixMyStreet yn ap gwe blaengar sy’n galluogi dinasyddion ledled y Deyrnas Unedig i adrodd problemau lleol i’r awdurdod sy’n gyfrifol am eu trwsio, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siŵr ym mha awdurdod lleol ydynt. Am y tro cyntaf ers ei lansio yn 2007, bydd defnyddwyr yng Nghymru sydd am wneud adroddiadau yn Gymraeg yn gallu gweld fersiwn Gymraeg o’r wefan a’r ap, gan gynnwys map Cymraeg wedi’i ddarparu gan Mapio Cymru.
Wedi’i lansio yn 2019, mae Mapio Cymru yn brosiect sy’n darparu map uniaith Gymraeg o Gymru ac sy’n ceisio sicrhau bod gwasanaethau mapio cystal yn y Gymraeg ag y maent yn Saesneg gan ddefnyddio ffynonellau data agored. Mae Mapio Cymru yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i wella gwasanaethau mapio yn yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Wyn Williams o dîm Mapio Cymru: “Ein nod yw gwneud hi’n haws i sefydliadau ddarparu gwasanaethau mapio Cymraeg o’r safon uchaf. Felly, ry ni wrth ein boddau bod technoleg mapio digidol mySociety i’w gweld arlein yn y Gymraeg, priod iaith miloedd o bobl sy’n byw yng Nghymru ̶ a’r gobaith yw ̶ miliwn o bobl erbyn 2050.”
Gall defnyddwyr Cymraeg ddechrau defnyddio’r fersiwn Gymraeg o FixMyStreet yn syth drwy fynd i FixMyStreet.com neu lawrlwytho ap FixMyStreet. Am gyfweliad neu wybodaeth bellach am waith Mapio Cymru a Fix My Street, cysylltwch gyda Wyn Williams ar wyn AT mapio DOT Cymru .
Mwy am #mapioCymru
Ceir ambell i fwlch ym map Cymraeg Mapio Cymru oherwydd bod y prosiect yn dibynnu ar wirfoddolwyr a chyrff cyhoeddus i gyfrannu enwau Cymraeg diffiniol. Gall gwirfoddolwyr helpu lenwi’r bylchau drwy ychwanegu’r enwau Cymraeg ar gyfer nodweddion ar y map (adeiladau, ffyrdd, mynyddoedd, caeau ac yn y blaen). Gall cyrff cyhoeddus helpu i lenwi’r bylchau drwy gyhoeddi’r enwau Cymraeg sydd ganddynt ar gyfer nodweddion o dan drwydded agored. Mae tîm Mapio Cymru ar gael i roi cyngor ar y materion hyn. Am fanylion pellach, cysylltwch trwy’r wefan mapio.cymru neu’r hashnod #mapioCymru.
Mwy o FixMyStreet
Cafodd FixMyStreet ei hadeiladu i’w gwneud hi’n haws i ddinasyddion adrodd am broblemau yn eu cymunedau. Mae FixMyStreet yn ap gwe blaengar annibynnol, rhad ac am ddim, a adeiladwyd gan yr elusen mySociety i alluogi dinasyddion y DU i adrodd, gweld a thrafod problemau lleol. Anfonir yr holl adroddiadau a wneir trwy FixMyStreet yn uniongyrchol at yr awdurdod sy’n gyfrifol am ddatrys y broblem, a all wedyn ymateb i’r gwneuthurwr adroddiadau i’w diweddaru ar statws ei benderfyniad. Mae adroddiadau a’u hymatebion hefyd yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ar y map i gynyddu tryloywder o fewn cymuned.
Mae’r feddalwedd ffynhonnell agored ar gael i’w defnyddio’n fyd-eang (gweler fixmystreet.org), neu mae fersiwn Pro wedi’i chynnal a’i hintegreiddio’n llawn y gall cynghorau neu awdurdodau cyhoeddus eraill dalu ffi flynyddol a ddarperir gan is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r elusen, SocietyWorks (gweler societyworks.org). Rydym yn falch iawn o allu gwneud y gwasanaeth yn hygyrch i ddinasyddion Cymraeg eu hiaith, gyda phroses adrodd wedi’i chyfieithu’n llawn a map Cymraeg sydd yn galluogi defnyddwyr i ddewis enwau strydoedd a lleoliadau y maent yn gyfarwydd â hwy. Edrychwn ymlaen at weld fersiwn Gymraeg y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan fwy o ddinasyddion sy’n poeni am wella lle maen nhw’n byw.
Ynglŷn â mySociety
Mae mySociety yn sefydliad dielw sy’n ceisio adfywio democratiaeth, gan roi mwy o rym i fwy o bobl drwy greu technolegau a data digidol. Ewch i mysociety.org am fwy o wybodaeth.
Mae Mapio Cymru yn brosiect Cwmni Buddiannau Cymunedol Data Orchard sy’n derbyn cymorth ariannol i gynnal y map Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Cysylltwch gyda post AT mapio DOT cymru am fwy o wybodaeth.
Cwmni Buddiannau Cymdeithasol a menter gymdeithasol yw Data Orchard CIC sy’n helpu sefydliadau i ddefnyddio data ar gyfer penderfyniadau gwell ac effeithlon. Mae Data Orchard CIC yn cyfuno sgiliau arbenigol mewn ymchwil, ystadegau a data gydag angerdd i greu byd gwell yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Am fwy o wybodaeth: dataorchard.org.uk
Mae’r holl god rydym yn defnyddio ar gyfer y gweinydd map Cymraeg Mapio Cymru ar gael bellach mewn ystorfa.
Bydd hi o ddiddordeb yn enwedig os ydych chi eisiau darparu gweinydd eich hunain sydd yn cynhyrchu teiliau map yn Gymraeg (neu efallai iaith wahanol o’ch dewis). Mae’r holl god wedi’i drwyddedu dan GPL, sydd yn caniatau i chi’i redeg at unrhyw bwrpas, ei newid, a’i ailddosbarthu.
Nodwch fod angen gwybodaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio Linux trwy’r llinell orchymyn.
Y prif declyn yn yr ystorfa yw’r sgript cartonamecy2name.lua sydd yn rhedeg tra’n mewnforio data. Mae’n penderfynu ar yr enw i’w gadw yn y gronfa ddata, ar gyfer unrhyw endid ar y map. Data OSM yw prif ffynhonell Mapio Cymru, y tagiau name:cy a name yn enwedig, ac hefyd gwybodaethau enwau Wikidata trwy’r tag OSM wikidata. Trwy olygu’r ffynhonellau hyn rydym hefyd yn edrych at ddata agored wrth Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae llawer mwy o fanylion yn y ffeil README yn yr ystorfa, gan gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam.
Os ydych chi eisiau defnyddio map Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, anwybyddwch yr uchod ac ewch i openstreetmap.cymru!
Roedd hi’n bleser cael cymryd rhan mewn cynhadledd FOSS4G yng Nghaerdydd heddiw.
Dyma recordiad o fy nghyflwyniad trwy gyfrwng y Saesneg a’r sleidiau – am ddarparu gweinydd Mapio Cymru.
Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb i bobl sydd am wella mapio mewn ieithoedd â llai o adnoddau o gwmpas y byd. Yn ogystal, bydd hi’n well i unrhyw un sydd eisiau gweld tŵf OpenStreetMap yn gyffredinol dalu sylw i agweddau amlieithog y prosiect – yn fy marn i.
Diolch i’r holl gyfranogwyr a threfnwyr am ddiwrnod addysgiadol iawn yn FOSS4G!
Oes gennych chi ddiddordeb yn y feddalwedd gweinydd ac agweddau data tu ôl i Mapio Cymru ac OpenStreetMap? Os oes, dewch i fy sgwrs yn FOSS4G.
FOSS4G yw’r Gynhadledd Feddalwedd Rydd Ryngwladol ar gyfer pethau Geo-ofodol. Eleni mae’n digwydd ar ddydd Iau 17eg mis Tachwedd mewn sawl safle corfforol ar draws gwledydd Prydain ar yr un pryd – gan gynnwys Caerdydd lle byddaf i.
Fel Mapio Cymru rydym wedi rhannu ein gwersi a’n brwdfrydedd mewn sawl digwyddiad ac wedi trefnu rhai digwyddiadau ein hunain, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Y tro hwn bydd fy sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg. Dw i’n mynd i ganolbwyntio ar yr ochr mwy technegol – beth sy’n digwydd ar y gweinyddion, ynghyd â rhywfaint o gyd-destun am sefyllfa’r Gymraeg i’r rhai sydd ddim yn ymwybodol.
Byddaf yn trafod sut rydym wedi adeiladu map Cymraeg o Gymru, pa heriau technegol a heriau eraill rydym wedi’u hwynebu, beth fydd y camau nesaf, ac yn rhannu ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer mynd â mapio yn Gymraeg i bawb.
Gobeithio bydd rhywun yn cael eu hysbrydoli i gyfrannu at fapio yn y Gymraeg neu OpenStreetMap fel prosiect ehangach, neu ddechrau menter eu hunain – efallai ar gyfer iaith arall sydd â llai o adnoddau.
Dw i newydd glywed bod nifer isel o docynnau ar ôl i gangen Caerdydd o’r digwyddiad. Bydd modd i chi wylio’r recordiad wedyn fel opsiwn arall.
Mae Mapio Cymru bellach yn cynnal map arbrofol i chi bori, sydd yn gyfateb i’r prif fap.
Mae’r map hwn yn edrych yn eithaf tebyg i’r prif fap, ond mae’n cael ei letya ar weinydd ar wahan dw i wedi darparu ar ei gyfer:
Edrychwch yn fanwl ac fe gewch chi weld bod yr holl enwau llefydd ychydig yn wahanol.
Pam gwneud hyn? Y prif bwrpas yw i ganfod bylchau yn y data ar gyfer enwau Cymraeg. Mae unrhyw enw yn gallu dilyn sawl ffordd i’r prif fap. Mae’r map yn cymryd data oddi wrth OpenStreetMap a Wikidata, ac wedyn yn ei brosesu. Roedden ni fel prosiect Mapio Cymru eisiau cyfleu ffynhonnell y data ar fap, ond ar wahân i’r prif fap.
Ar hyn o bryd mae pedair ffynhonnell wedi eu nodi ar allwedd y map arbrofol:
- Wrth maes name:cy (OpenStreetMap)
- Wrth maes name (OpenStreetMap) – er nad yw’r enw wedi ei labeli fel Cymraeg mae’n edrych fel bod e yn Gymraeg, yn ôl meini prawf penodol. Dw i angen blogio am y meini prawf yn fuan.
- Wrth Wikidata
- Ni chafwyd enw addas (ar hyn o bryd)
Nodwch fod yr allwedd yn gallu newid yn y dyfodol. Edrychwch ar y map a’i allwedd am fanylion.
Ni fydd modd i chi gwneud popeth rydych chi’n gallu gwneud gyda’r prif fap, fel chwilio a mewnosod yn hawdd.
Yr hyn rydych chi’n gallu gwneud yw pori’r map arbrofol i ganfod diffygion ac wedyn golygu OSM i fewnbynnu enwau mewn achosion lle mae’r data yn anghyflawn.
Bydd eich newidiadau yn ymddangos ar y prif fap a’r map arbrofol.
Yn y pen draw, bydd yr enw rydych chi’n fewnbynnu yn ymddangos mewn llu o apiau a phrosiectau, diolch i’w statws data agored. Dw i’n falch o gynnig yr adnodd fel ffordd o helpu unrhyw un sydd eisiau rhannu enwau llefydd Cymraeg. Diolch eto i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith.
Pwll Tywod yw enw’r gweinydd map arbrofol. Mae hyn wedi ei ddinodi gyda’r lliw tywod o’i amgylch. Mae’r defnydd o’r term yn cyfleu ein bod yn chwarae gyda’i ymddangosiad. Esgusodwch unrhyw namau technegol byddech chi’n gweld ar y map arbrofol – ond dyna’r pwynt.
Mapio Map swyddogol Cymru o Gymru!
Openstreetmap.cymru yn cyrraedd Map Data Llywodraeth Cymru
Eleni, mae tîm Mapio Cymru, a ariennir gan #Cymraeg2050, wedi parhau i weithio ar eu map data agored o Gymru sy’n seiliedig ar ddata OpenStreetMap, wici y byd mapiau. Yn awr, maent yn rhan o bartneriaeth gyda thîm Map Data Cymru Llywodraeth Cymru i greu platfform cyffrous newydd .
Mae gan Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru Glyn Jones angerdd gwirioneddol am ddata digidol, a bydd ei Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru yn rhoi,
“…y ffocws gwirioneddol ar brofiad y defnyddiwr. Mae data geo-ofodol yn hollbwysig ac wrth wraidd y Strategaeth Ddigidol. Rydyn ni’n edrych ar ddatblygu sgiliau ar gyfer dysgu gydol oes a fydd yn dechrau yn ysgol.” Yn ôl Glyn Jones, mae gwaith Mapio Cymru gyda thîm newydd Map Data Cymru,”… yn enghraifft flaenllaw o’r hyn rydyn ni’n edrych i’w gyflawni” gyda 365 o setiau data, un ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn!
Gan fod openstreetmap.cymru bellach yn haenen bwysig ar fap swyddogol newydd Cymru, “mae’n enghraifft dda iawn o weithio mewn partneriaeth, gan sicrhau profiad dwyieithog i’r defnyddiwr”.
“Lle’r oedd diffyg data mapio iaith Gymraeg, mae gennym Map Data Cymru bellach ac rydym yn falch iawn ohono. Gyda’r gwaith hwn, rydym wedi dangos beth y gall gydweithio ei gyflawni.”
Y gobaith yw, y bydd y map newydd hefyd yn arbed arian yn y sector cyhoeddus; “yn hytrach na phawb yn cynhyrchu mapiau eu hunain, maen nhw nawr yn gallu defnyddio Data Map Cymru!”
Am ragor o wybodaeth, neu gyfweld Carl Morris ac/neu Wyn Williams o mapio.cymru cysylltwch post@mapio.cymru .
DELWEDDAU
Dyma Map Data Cymru!
Dyma sut i ddewis ein map ni ar wefan newydd Map Data Cymru!
Dyma Mapio Cymru ar Map Data Cymru!