Categorïau
Digwyddiadau

Mapio Cymru yn FOSS4G: Defnyddio teclynnau Switch2OSM i adeiladu map Cymraeg

Roedd hi’n bleser cael cymryd rhan mewn cynhadledd FOSS4G yng Nghaerdydd heddiw.

Dyma recordiad o fy nghyflwyniad trwy gyfrwng y Saesneg a’r sleidiau – am ddarparu gweinydd Mapio Cymru.

Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb i bobl sydd am wella mapio mewn ieithoedd â llai o adnoddau o gwmpas y byd. Yn ogystal, bydd hi’n well i unrhyw un sydd eisiau gweld tŵf OpenStreetMap yn gyffredinol dalu sylw i agweddau amlieithog y prosiect – yn fy marn i.

Diolch i’r holl gyfranogwyr a threfnwyr am ddiwrnod addysgiadol iawn yn FOSS4G!

Categorïau
Digwyddiadau

Anerchiad Mapio Cymru mewn cynhadledd FOSS4G

Oes gennych chi ddiddordeb yn y feddalwedd gweinydd ac agweddau data tu ôl i Mapio Cymru ac OpenStreetMap? Os oes, dewch i fy sgwrs yn FOSS4G.

FOSS4G yw’r Gynhadledd Feddalwedd Rydd Ryngwladol ar gyfer pethau Geo-ofodol. Eleni mae’n digwydd ar ddydd Iau 17eg mis Tachwedd mewn sawl safle corfforol ar draws gwledydd Prydain ar yr un pryd – gan gynnwys Caerdydd lle byddaf i.

Fel Mapio Cymru rydym wedi rhannu ein gwersi a’n brwdfrydedd mewn sawl digwyddiad ac wedi trefnu rhai digwyddiadau ein hunain, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Y tro hwn bydd fy sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg. Dw i’n mynd i ganolbwyntio ar yr ochr mwy technegol – beth sy’n digwydd ar y gweinyddion, ynghyd â rhywfaint o gyd-destun am sefyllfa’r Gymraeg i’r rhai sydd ddim yn ymwybodol.

Byddaf yn trafod sut rydym wedi adeiladu map Cymraeg o Gymru, pa heriau technegol a heriau eraill rydym wedi’u hwynebu, beth fydd y camau nesaf, ac yn rhannu ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer mynd â mapio yn Gymraeg i bawb.

Gobeithio bydd rhywun yn cael eu hysbrydoli i gyfrannu at fapio yn y Gymraeg neu OpenStreetMap fel prosiect ehangach, neu ddechrau menter eu hunain – efallai ar gyfer iaith arall sydd â llai o adnoddau.

Dw i newydd glywed bod nifer isel o docynnau ar ôl i gangen Caerdydd o’r digwyddiad. Bydd modd i chi wylio’r recordiad wedyn fel opsiwn arall.

Categorïau
Canllawiau Digwyddiadau

FIDEO: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Hei! Dyma’r fideo o Weithdy Mapio Cymru ar 5ed Awst 2021 yn ystod Eisteddfod AmGen.

Yn fras dyma raglen y fideo yn ôl codau amser – gydag ambell i ddolen berthnasol:

  • 0:00 Cyflwyniad i brosiect Mapio Cymru ac OpenStreetMap
  • 18:00 Map o leoliadau Eisteddfod Genedlaethol
  • 25:00 Cyflwyniad i’n defnydd o Wikidata
  • 32:00 Helpwch gyflawni’r rhestr o adeiliadau rhestredig Gradd I yng Nghymru (dal angen help ar y rhestr plîs!)
  • 46:35 Sgwrs gyffredinol: am enwau caeau, lle i roi enwau, a phwysigrwydd dosbarthu enwau dan drwyddedau rhydd ar gyfer y dyfodol

Diolch o galon i Eisteddfod AmGen a’r Lle Hanes am y croeso, ac wrth gwrs i bawb a gymerodd rhan yn y gweithdy!

Categorïau
Digwyddiadau

Dewch i Weithdy Mapio Cymru, Y Lle Hanes, Eisteddfod AmGen 2021

DIWEDDARIAD: Dyma fideo y digwyddiad.

Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg.

Mae’r gwaith yn berthnasol i addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned – a hanes.

Bydd y trefnwyr yn disgrifio sut mae’r prosiect yn manteisio ar adnoddau agored a rhydd ar y we megis OpenStreetMap a Wicipedia/Wikidata, a’r hyn rydych chi’n gallu gwneud i gymryd rhan yn yr hwyl.

Nid oes angen unrhyw brofiad na dealltwriaeth o flaen llaw, dim ond chwilfrydedd!

dydd Iau 5ed Awst 2021
3PM tan 4PM
https://eisteddfod.zoom.us/j/5795483521?pwd=UTlwemdaa0pMU1VGSWw4aU93UmVKQT09
ID: 579 548 3521
Cyfrinair: 674244

Mae’r gweithdy Zoom hwn wedi ei drefnu gan brosiect Mapio Cymru mewn cydweithrediad â’r Lle Hanes.