MYND AM DRO YN Y FRO
Hanes yr Arth?
Pe baech wedi arfer â gyrru o Gaerdydd i Bentyrch – er mwyn gwrando ar gyn-gystadleuydd rhaglen realiti yn canu er enghraifft, neu i geisio dod o hyd i’r defaid sydd yn ôl pob son yn crwydro’r mynydd cyfagos – fe ddowch chi yn gyntaf i’r garth; i waelod y garth i ddweud y gwir sydd wrth gwrs wrth ymyl pentref Gwaelod-y-Garth.
Dylai’r enw yna canu cloch, ac yn wir yn y cyd-destun hwnnw mae’r term ‘garth’ ddim yn teimlo’n estron iawn , hyd yn oed i bobl nad sydd yn byw yn ardal Penarth ym Mro Morgannwg.
Dydw i heb ddod o hyd i’r union le fy hunan, ond dychmygaf fod “mynydd” chwedlonol Pentyrch yn dod i ben wrth ddibyn y garth, neu ben y garth fel petai. [ Ond beth yn union yw ‘garth’ medde chi – rhowch sylw isod os am wybod neu os yn gwybod !! ]
A thrwy hynny fel gwelwch chi nawr yn ddi-os tarddiad yr enw Penarth, neu Pen-y-garth fel yr amlygir gan yr Ysgol Gynradd Gymraeg leol o’r radd flaenaf.
Ar siwmperi’r ysgol honno, gwelir y geiriau
“Gorau Awen Gwirionedd”
a dyna fydd y golofn hon yn ceisio bob wythnos /
mis wrth gyflwyno enw pentrefi a threfi Bro Morgannwg yn eu cyd-destun hanesyddol; gwir pob gair, ac mewn gwirionedd ceir yr hanesion gorau…ydy’r gobaith!
Felly, os ydych chi’n gwybod tarddiad enw gwreiddiol eich
pentref, rhowch wybod : cysylltwch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #mapioCymru.
Mae’r blog yma yn fersiwn newydd o erthygl ymddangosodd yn gyntaf ym mhapur newydd The Glamorgan GEM ar dudalennau Menter Bro Morgannwg ym mis Ionawr 2015.