Mae oddeutu 493 o adeiladau rhestredig Gradd I yng Nghymru megis Castell Cyfarthfa, Carchar Biwmares, Adeilad y Pierhead a mwy.
Mae Gradd I yn golygu bod nhw o ‘ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer’. Nid ni sydd yn penderfynu ar y rhestr derfynol yn anffodus!
Ond mae dros 100 o adeiladau Gradd I ar fap Mapio Cymru sydd heb label Cymraeg, ac mae’n hawdd i ni sicrhau bod yr enwau Cymraeg ar gael i bawb.
Allech chi helpu?
- Ewch i’r rhestr o adeiladau rhestredig Gradd I sydd angen enwau Cymraeg. Os nad ydych chi’n gweld enw adeilad Gradd I mae’n debyg bod rhywun wedi rhannu’r enw yn barod.
- Os ydych chi’n gwybod yr enw safonol yn Gymraeg ar gyfer unrhyw adeilad rhowch yr enw yn y golofn ‘Cymraeg’.
- Ewch yn ôl i bwynt 2 os ydych chi’n gwybod mwy nag un enw.
- Dyna ni!
Wedyn byddwn yn rhoi’r enwau mewn cronfa OpenStreetMap ar eich rhan – i bawb ddysgu a defnyddio, ac ar y map wrth gwrs.
Llun gan WelshDave (CC BY-SA)