Categorïau
Sylwebaeth

Enwau Cymraeg am adeiladau Gradd I o Fôn i Fynwy – eich cyfraniad plîs!

Mae oddeutu 493 o adeiladau rhestredig Gradd I yng Nghymru megis Castell Cyfarthfa, Carchar Biwmares, Adeilad y Pierhead a mwy.

Mae Gradd I yn golygu bod nhw o ‘ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer’. Nid ni sydd yn penderfynu ar y rhestr derfynol yn anffodus!

Ond mae dros 100 o adeiladau Gradd I ar fap Mapio Cymru sydd heb label Cymraeg, ac mae’n hawdd i ni sicrhau bod yr enwau Cymraeg ar gael i bawb.

Allech chi helpu?

  1. Ewch i’r rhestr o adeiladau rhestredig Gradd I sydd angen enwau Cymraeg. Os nad ydych chi’n gweld enw adeilad Gradd I mae’n debyg bod rhywun wedi rhannu’r enw yn barod.
  2. Os ydych chi’n gwybod yr enw safonol yn Gymraeg ar gyfer unrhyw adeilad rhowch yr enw yn y golofn ‘Cymraeg’.
  3. Ewch yn ôl i bwynt 2 os ydych chi’n gwybod mwy nag un enw.
  4. Dyna ni!

Wedyn byddwn yn rhoi’r enwau mewn cronfa OpenStreetMap ar eich rhan – i bawb ddysgu a defnyddio, ac ar y map wrth gwrs.

Llun gan WelshDave (CC BY-SA)

Categorïau
Sylwebaeth

Fideo: Beth yw problemau what3words?

Mae cwmni nid-er-elw-yn-anfwriadol what3words wedi bod yn prynu slotiau hysbysebu eto. Mae tipyn o sylw wedi bod yn y wasg hefyd, sydd yn dueddol o beidio herio ac yn lle hyrwyddo’n ddi-gwestiwn.

Fe ffeindiais y fideo diddorol hwn sydd yn rhestru sawl gwendid gyda’r cwmni a’i system.

Un problem yn enwedig o safbwynt tîm Mapio Cymru yw’r diffyg trwyddedu agored o’r data a meddalwedd, fel y soniwyd yn y fideo – ac fel canlyniad, y diffyg adolygiad gan gydweithwyr o’r system.

Mae’r dryswch ynghlwm â newid o un system iaith i’r llall yn achos pryder i ni hefyd.

Gweler hefyd: Achubwyr yn cwestiynu defnydd o what3words mewn argyfwng (BBC, Saesneg)