Hei! Dyma’r fideo o Weithdy Mapio Cymru ar 5ed Awst 2021 yn ystod Eisteddfod AmGen.
Yn fras dyma raglen y fideo yn ôl codau amser – gydag ambell i ddolen berthnasol:
- 0:00 Cyflwyniad i brosiect Mapio Cymru ac OpenStreetMap
- 18:00 Map o leoliadau Eisteddfod Genedlaethol
- 25:00 Cyflwyniad i’n defnydd o Wikidata
- 32:00 Helpwch gyflawni’r rhestr o adeiliadau rhestredig Gradd I yng Nghymru (dal angen help ar y rhestr plîs!)
- 46:35 Sgwrs gyffredinol: am enwau caeau, lle i roi enwau, a phwysigrwydd dosbarthu enwau dan drwyddedau rhydd ar gyfer y dyfodol
Diolch o galon i Eisteddfod AmGen a’r Lle Hanes am y croeso, ac wrth gwrs i bawb a gymerodd rhan yn y gweithdy!