Categorïau
Cerrig milltir

Dadgoloneiddio mapiau Cymru: amlygu enwau llefydd Wikidata yn Gymraeg

Mae Mapio Cymru fel prosiect wedi bod yn gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddar i amlygu’r holl enwau llefyd yn Gymraeg sydd o fewn cronfa Wikidata, a gwella nhw.

Mae canoedd o enwau wrth Wikidata ar y map bellach yn ogystal ag enwau oddi wrth OpenStreetMap (OSM).

Dyma Jason Evans o’r llyfrgell yn ymhelaethu ar y gwaith a’i bwysigrwydd:

[…]

Mae cyfuno Wikidata ag OSM yn caniatáu inni adeiladu ar waith Mapio Cymru, sydd wedi bod yn datblygu map o Gymru gan ddefnyddio’r data Cymraeg a gedwir yng nghronfa ddata OSM. Trwy alinio a chyfuno hyn â Wikidata gall y map ddechrau tyfu ymhellach, gan gynnig mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae hyn yn bwysig. Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fwtaniadau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael ei ailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.

Nod y prosiect hwn yw dadgoloneiddio mapio yng Nghymru, nid trwy ddileu enwau lleoedd Saesneg o’r cofnod ond trwy gynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr weld ac archwilio map modern o Gymru trwy gyfrwng Cymraeg yn unig – gwasanaeth nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd tan y lansiad o Mapio Cymru.

Felly’r her gyntaf gyda’r prosiect hwn mewn gwirionedd yw annog cymunedau i gyfrannu eu henwau Cymraeg lleol i OSM neu Wikidata fel y gellir eu cynnwys ar y map, a gwneir hyn trwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau golygu. […]

Darllenwch yr erthygl cyfan ar flog y Llyfrgell Genedlaethol.