Categorïau
Cerrig milltir

Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru i’ch helpu chi i rannu mwy o enwau llefydd Cymraeg

Mae Mapio Cymru bellach yn cynnal map arbrofol i chi bori, sydd yn gyfateb i’r prif fap.

Mae’r map hwn yn edrych yn eithaf tebyg i’r prif fap, ond mae’n cael ei letya ar weinydd ar wahan dw i wedi darparu ar ei gyfer:

pwlltywod.mapio.cymru

Edrychwch yn fanwl ac fe gewch chi weld bod yr holl enwau llefydd ychydig yn wahanol.

Pam gwneud hyn? Y prif bwrpas yw i ganfod bylchau yn y data ar gyfer enwau Cymraeg. Mae unrhyw enw yn gallu dilyn sawl ffordd i’r prif fap. Mae’r map yn cymryd data oddi wrth OpenStreetMap a Wikidata, ac wedyn yn ei brosesu. Roedden ni fel prosiect Mapio Cymru eisiau cyfleu ffynhonnell y data ar fap, ond ar wahân i’r prif fap.

Ar hyn o bryd mae pedair ffynhonnell wedi eu nodi ar allwedd y map arbrofol:

  • Wrth maes name:cy (OpenStreetMap)
  • Wrth maes name (OpenStreetMap) – er nad yw’r enw wedi ei labeli fel Cymraeg mae’n edrych fel bod e yn Gymraeg, yn ôl meini prawf penodol. Dw i angen blogio am y meini prawf yn fuan.
  • Wrth Wikidata
  • Ni chafwyd enw addas (ar hyn o bryd)

Nodwch fod yr allwedd yn gallu newid yn y dyfodol. Edrychwch ar y map a’i allwedd am fanylion.

Ni fydd modd i chi gwneud popeth rydych chi’n gallu gwneud gyda’r prif fap, fel chwilio a mewnosod yn hawdd.

Yr hyn rydych chi’n gallu gwneud yw pori’r map arbrofol i ganfod diffygion ac wedyn golygu OSM i fewnbynnu enwau mewn achosion lle mae’r data yn anghyflawn.

Bydd eich newidiadau yn ymddangos ar y prif fap a’r map arbrofol.

Yn y pen draw, bydd yr enw rydych chi’n fewnbynnu yn ymddangos mewn llu o apiau a phrosiectau, diolch i’w statws data agored. Dw i’n falch o gynnig yr adnodd fel ffordd o helpu unrhyw un sydd eisiau rhannu enwau llefydd Cymraeg. Diolch eto i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwaith.

Pwll Tywod yw enw’r gweinydd map arbrofol. Mae hyn wedi ei ddinodi gyda’r lliw tywod o’i amgylch. Mae’r defnydd o’r term yn cyfleu ein bod yn chwarae gyda’i ymddangosiad. Esgusodwch unrhyw namau technegol byddech chi’n gweld ar y map arbrofol – ond dyna’r pwynt.

13 ateb ar “Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru i’ch helpu chi i rannu mwy o enwau llefydd Cymraeg”

There are many errors on Mapio Cymru, some of it based on poorly-researched work or historic speculation, and omissions. Will editorial emendations draw on historic evidence?

Annwyl Richard, thank you for your comment and question. Mapio Cymru draws all its geographical and place name data entirely from OpenStreetMap and Wikidata. These two sources are editable by anybody, and also licensed as open data to be used freely. Therefore we would strongly encourage anybody who sees ways of improving the data to edit these sources. Gobeithio eich bod yn mwynhau cyfrannu at yr adnoddau gwerthfawr hyn.

Ateb

Cwestiwn am beth yw gwall yw hyn. Ar OSM ei hun mae copa o’r enw Foel Gasyth yn ymddangos
https://www.openstreetmap.org/node/3295717654
Ond nid yw’r enw ar Mapio Cymru, mond eicon copa a’i uchder. Es i OSM nawr a meddwl ei gynnwys o dan multilingual name, ond yna stopiais gan mai’r un enw ydy o. Oes yna reswm pam nad yw’n ymddangos yn Mapio Cymru – a gafodd ei nodi yn anghywir fel ‘enw Saesneg’ yn lle jest ‘enw’ ar OSM, os yw hynny’n bosib?

Rhys

Wrth gwrs rwyt ti’n iawn – dylai Foel Gasyth ymddangos i bobl.

Rwyt ti wedi rhoi dy fys ar fater sydd yn berthnasol iawn i Mapio Cymru. Rydyn ni wedi bod yn ceisio annog pobl sy’n golygu OSM i roi’r enw Cymraeg yn y maes name:cy er mwyn gwneud enwau Cymraeg yn hollol glir yn y data. Mae hynny yn hollbwysig.

Mewn achosion lle mae name yn digwydd bod yn Gymraeg mae hyn yn edrych fel dyblygiad – ond mae’n cyfleu gwybodaeth newydd, y ffaith bod enw yn sicr yn Gymraeg.

Yn anffodus mae diffiniad o name (heb dag iaith) yn amwys iawn – ‘y prif enw yn y byd go iawn’, ‘yr un mwyaf amlwg ar y gwaelod’ ayyb! Yng Nghymru mae’n gallu bod yn Gymraeg, Saesneg, neu iaith arall. Dydy hyn ddim yn glir iawn o ran ceisio canfod enwau Cymraeg.

Mae pob enw yn y byd yn fater o safbwynt ieithyddol. Felly yn fy marn i dylai pob enw ar OSM cael ei dagio gyda’i iaith. Hefyd yn fy marn i ni ddylai’r maes name (heb dag iaith) fodoli o gwbl. Ond dw i ddim yn cael penderfynu dros bawb yn y byd!

Pe taswn i’n dangos pob name ar Mapio Cymru byddai llawer iawn o enwau sydd ddim yn Gymraeg ymddangos. Yr hyn mae’r system yn gwneud yw: trio dangos name:cy, neu drio cymryd enw wrth Wikidata, neu asesu name yn ôl meini prawf, e.e. cynnwys ‘ysgol’, ‘eglwys’ ayyb (y rhestr werdd), ac hefyd ddim yn cynnwys ‘z’, ‘x’, ‘k’ ayyb (y rhestr goch). Dyw e ddim yn berffaith ond mae’r rhaf fwyaf sy’n pasio’r profion yn Gymraeg ac yn addas. Dw i am roi ‘foel’ ar y rhestr werdd cyn hir hefyd – ond mae hi dal yn bwysig i roi’r enw Cymraeg mewn name:cy.

Diolch am ofyn. A dweud y gwir dw i angen blogio’n fanwl am yr elfen yma, a hefyd rhannu’r meini prawf sef y rhestr goch a rhestr werdd o elfennau.

Ateb

Diolch am yr ateb manwl ac mae’n rhoi hyder i mi rwan fynd ymlaen a golygu, a dwi’n cytuno efo’r canlynol ac yn deall bod o allan o reolaeth Mapio Cymru:
Hefyd yn fy marn i ni ddylai’r maes name (heb dag iaith) fodoli o gwbl. Ond dw i ddim yn cael penderfynu dros bawb yn y byd!

Ar yr un trywydd mae llawer o enwau tai/ffermydd ar goll ar Mapio Cymru (ble sbiais ta beth) ac mae ateb yn esbonio pam felly dwi’n meddwl. Un enghraifft yw fy hen gartref, Tyddyn Isaf. Dwi’n cymryd felly nad yw ‘Tyddyn’ ar y rhestr werdd. Baswn i’n teimlo’n hyderus nad oes y fath air mewn iaith arall iddo beri dryswch, trad dwi ddim mor hyderus am ‘Isaf’ – ai’r math yma o eiriau baset yn eu hychwanegu at y rhestr werdd i sicrhau bod mwy yn ymddangos yn ddiofyn?

Rhyfedd. Dyma’r eitem sydd wedi achosi’r ‘Treganna’. Mae’n edrych fel bod y cod Q5033865 sy’n cyfeirio at eitem Wikidata yn anghywir. Wyt ti eisiau trwsio fe trwy roi’r cod cywir yn ei le?
https://www.openstreetmap.org/node/244415696

Mae’r nodyn yn awgrymu bod y cod Q5033865 wedi dod o broses awtomatig, felly efallai dylen ni edrych at holl fewnbwn y broses yna rhag ofn bod gwallau eraill. (Mae’r nodyn yn dweud ‘auto-matching wikidata tags based on wikipedia tags per @talk discussion. Further cleanup will be done using…’)

Ateb

There is no mynydd bach in the llynfi valley. Its name is mynydd Pwll-yr-iwrch.

Apparently the OS agreed to change it back in 2008.

I strongly suggest that it is worth contacting locals, such as town councils or ramblers associations as these are more likely to know the “local” names of places that the OS maps miss.

I suspect the maps you use are quite old and outdated.

https://www.walesonline.co.uk/news/local-news/actors-peak-performance-2152001?int_source=amp_continue_reading&int_medium=amp&int_campaign=continue_reading_button#amp-readmore-target

Annwyl L. Rees, diolch yn fawr iawn am eich sylw.

Thank you for the info and the advice. Please feel free to edit the OpenStreetMap resource directly if you spot deficiencies. You can do this at https://osm.org and it’s almost entirely dependent on keen-eyed and enthusiastic people to improve it. In turn Mapio Cymru will draw from this data. Hope you have fun, and thanks again for your interest.

Ateb

Helo,
Dwi’n bwriadu defnyddio’r plugin ‘Maps Marker Pro’ ar gyfer gosod map interactif Open Street Maps ar fy ngwefan WordPress. Mi fydd y wefan yn ddwyieithog. Hoffwn fod y map Cymraeg (hynny yw, https://openstreetmap.cymru/) yn cael i’w dangos pan fydd y defnyddiwr ar ochr Gymraeg y wefan. Gallwch chi helpu/cynghori’r ffordd orau i wneud hyn plîs? Mae modd setio fyny ‘Custom Basemaps’ ar y plugin wrth nodi’r URL i’r map ond dwi ddim yn siŵr o’r ‘variables’ i’w nodi?
Mi fydda i’n gwerthfawrogi unrhyw help gallwch chi gynnig! Diolch yn fawr. Gareth

Diolch yn fawr Carl, mae hynny’n lot fawr o help!
Allan o ddiddordeb, oes unrhyw ffordd o newid edrychiad y map? Hynny yw, defnyddio ‘theme’ gwahanol?
Diolch eto. Gareth

Helo Gareth, ydych chi wedi llwyddo i gael y map i ymddangos ar eich system/gwefan?

O ran y thema beth ydych chi eisiau gwneud yn fras?

Yn gyffredinol nid oes modd i ddefnyddiwr newid gwedd map Mapio Cymru yn hawdd. Ffeiliau PNG sydd yn cael eu creu gan y gweinydd. Dw i’n credu bod y thema gyfredol yn bodloni llawer o anghenion. Ond byddwn i’n croesawu adborth os ydych chi’n meddwl bod unrhyw ddiffygion yn y thema.

Ateb

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *