Tŷ tafarn ti ar y map!
Gellir llywio map ar-lein Cymraeg Llyw Cymru…
Petaech chi’n credu mai eich tafarn leol chi yw’r un orau, neu fod angen i’r estyniad newydd (ar yr hen estyniad) o’ch tafarn fod ar y map, dyma’ch cyfle i sicrhau hynny. OpenStreetMap yw Wicipedia’r byd mapio, ac maen nhw’ n barod i chi ychwanegu eich tafarn ar fersiwn Gymraeg y map. Un o’r tafarndai cyntaf i gael eu hychwanegu eisoes yw Tafarn yr Iorwerth ar Ynys Môn…
Ar Ddydd Sadwrn 9fed o fis Mawrth, cynhaliodd prosiect Mapio Cymru Llywodraeth Cymru ddiwrnod o rannu arfer da yn Nhafarn yr Iorwerth (a elwid gynt yn Iorwerth Arms) ym Mryngwran ar Sir Fôn. Dewiswyd y lleoliad gan fod ei enw Cymraeg wedi’i ychwanegu at fap openstreet.cymru Mapio Cymru , map ar-lein Cymraeg swyddogol Cymru, rhan bwysig o brosiect cenedlaethol Map Data Cymru.
Roedd ‘Mapio Môn’ yn gyfle i bobl sy’n ymddiddori mewn mapio gyfarfod i weld beth ellir ei wneud i wella’r ddarpariaeth o enwau Cymraeg ar fapiau. Bu arbenigwyr o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac o’r dafarn gymunedol Iorwerth Arms ei hun yn rhannu syniadau a allai gefnogi nod hirdymor Mapio Cymru; sef gwneud y data Cymraeg yn gyfartal o ran ansawdd a maint â’r data Saesneg sydd gennym ar gyfer Cymru.
Bydd uchafbwyntiau’r trafodaethau dwyieithog yn cael eu rhannu ar-lein yn fuan ar mapio.cymru.
Dyma gyflwyniad i hanes Tafarn yr Iorwerth yng nghwmni Aled Hughes a Neville Evans:
Gall pawb ychwanegu enw eu tafarn leol at fap Cymraeg ar-lein swyddogol Cymru openstreetmap.cymru drwy osm.org.
Am wybodaeth bellach, dilynwch #mapioCymru ar y cyfryngau cymdeithasol neu ebostiwch mapiocymru@dailingual.com .
Mae Mapio Cymru yn brosiect Data Orchard a noddir gan Lywodraeth Cymru.