…a beth yn y byd oedd e’n ei wneud yn yr ‘ham’?
A wyddoch chi fod yr enw Wrecsam a’i wreiddiau yn yr iaith Eingl-Sacsoneg? Yn y bôn ‘Dôl’ (neu gae) yw’r ‘ham’, a oedd yn berchen i Wrex (neu ‘Rick’ yn y byd sydd ohoni!). Serch hynny, mae yna ddigonedd o enwau Cymraeg yn yr ardal y gall Eisteddfod Wrecsam helpu i’w rhoi ar y map!
Mae Cyngor Wrecsam yn hyrwyddo enwau Cymraeg y ddinas yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac yn lansio ymgyrch i ychwanegu’r enwau hyn at fapiau ein gwlad gyda Mapio.Cymru ; yr arbenigwyr mapiau digidol Cymraeg.
Mae Mapio Cymru yn galw ar fynychwyr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i ychwanegu enwau Cymraeg yr ardal i’w map Openstreetmap.Cymru. Ymunwch gyda’r gweithdy ar Ddydd Gwener; ble bydd tîm Mapio Cymru yn esbonio sut i ychwanegu enwau Cymraeg at fap swyddogol ar-lein Cymru ger stondin Cyngor Wrecsam ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, 11yb-1yp. Edrychwch am Gyngor Bwrdeistref Wrecsam ar fap yr Eisteddfod!
Mae tîm Mapio Cymru wedi cynhyrchu fersiwn Cymraeg o OpenStreetMap, sydd wedi’i noddi gan fenter #Cymraeg2050 Llywodraeth Cymru i gael miliwn o ddefnyddwyr Cymraeg yng Nghymru yn 2050. Bellach mae eu gwaith wedi’i gynnwys yn Map Data Cymru, map ar-lein swyddogol Cymru.
Cefnogwch yr ymdrech i gael pob enw lleoliad yn Gymraeg ar openstreetmap.cymru.
Am fwy o wybodaeth neu am gyfweliad, cysylltwch: