Categorïau
Cerrig milltir Digwyddiadau Prosiectau

Tŷ tafarn ti ar y map!

Tŷ tafarn ti ar y map!

Gellir llywio map ar-lein Cymraeg Llyw Cymru…
Petaech chi’n credu mai eich tafarn leol chi yw’r un orau, neu fod angen i’r estyniad newydd (ar yr hen estyniad) o’ch tafarn fod ar y map, dyma’ch cyfle i sicrhau hynny.  OpenStreetMap yw Wicipedia’r byd mapio, ac maen nhw’ n barod i chi ychwanegu eich tafarn ar fersiwn Gymraeg y map.  Un o’r tafarndai cyntaf i gael eu hychwanegu eisoes yw Tafarn yr Iorwerth ar Ynys Môn…
Ar Ddydd Sadwrn 9fed o fis Mawrth, cynhaliodd prosiect Mapio Cymru Llywodraeth Cymru ddiwrnod o rannu arfer da yn Nhafarn yr Iorwerth (a elwid gynt yn Iorwerth Arms) ym Mryngwran ar Sir Fôn.  Dewiswyd y lleoliad gan fod ei enw Cymraeg wedi’i ychwanegu at fap openstreet.cymru Mapio Cymru , map ar-lein Cymraeg swyddogol Cymru, rhan bwysig o brosiect cenedlaethol Map Data Cymru.
Roedd ‘Mapio Môn’ yn gyfle i bobl sy’n ymddiddori mewn mapio gyfarfod i weld beth ellir ei wneud i wella’r ddarpariaeth o enwau Cymraeg ar fapiau.  Bu arbenigwyr o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac o’r dafarn gymunedol Iorwerth Arms ei hun yn rhannu syniadau a allai gefnogi nod hirdymor Mapio Cymru; sef gwneud y data Cymraeg yn gyfartal o ran ansawdd a maint â’r data Saesneg sydd gennym ar gyfer Cymru.
Bydd uchafbwyntiau’r trafodaethau dwyieithog yn cael eu rhannu ar-lein yn fuan ar mapio.cymru.
Dyma gyflwyniad i hanes Tafarn yr Iorwerth yng nghwmni Aled Hughes a Neville Evans:

Gall pawb ychwanegu enw eu tafarn leol at fap Cymraeg ar-lein swyddogol Cymru openstreetmap.cymru drwy osm.org.
Am wybodaeth bellach, dilynwch #mapioCymru ar y cyfryngau cymdeithasol neu ebostiwch mapiocymru@dailingual.com .
Mae Mapio Cymru yn brosiect Data Orchard a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Categorïau
Digwyddiadau

Mapio Cymru yn FOSS4G: Defnyddio teclynnau Switch2OSM i adeiladu map Cymraeg

Roedd hi’n bleser cael cymryd rhan mewn cynhadledd FOSS4G yng Nghaerdydd heddiw.

Dyma recordiad o fy nghyflwyniad trwy gyfrwng y Saesneg a’r sleidiau – am ddarparu gweinydd Mapio Cymru.

Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb i bobl sydd am wella mapio mewn ieithoedd â llai o adnoddau o gwmpas y byd. Yn ogystal, bydd hi’n well i unrhyw un sydd eisiau gweld tŵf OpenStreetMap yn gyffredinol dalu sylw i agweddau amlieithog y prosiect – yn fy marn i.

Diolch i’r holl gyfranogwyr a threfnwyr am ddiwrnod addysgiadol iawn yn FOSS4G!

Categorïau
Digwyddiadau

Anerchiad Mapio Cymru mewn cynhadledd FOSS4G

Oes gennych chi ddiddordeb yn y feddalwedd gweinydd ac agweddau data tu ôl i Mapio Cymru ac OpenStreetMap? Os oes, dewch i fy sgwrs yn FOSS4G.

FOSS4G yw’r Gynhadledd Feddalwedd Rydd Ryngwladol ar gyfer pethau Geo-ofodol. Eleni mae’n digwydd ar ddydd Iau 17eg mis Tachwedd mewn sawl safle corfforol ar draws gwledydd Prydain ar yr un pryd – gan gynnwys Caerdydd lle byddaf i.

Fel Mapio Cymru rydym wedi rhannu ein gwersi a’n brwdfrydedd mewn sawl digwyddiad ac wedi trefnu rhai digwyddiadau ein hunain, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Y tro hwn bydd fy sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg. Dw i’n mynd i ganolbwyntio ar yr ochr mwy technegol – beth sy’n digwydd ar y gweinyddion, ynghyd â rhywfaint o gyd-destun am sefyllfa’r Gymraeg i’r rhai sydd ddim yn ymwybodol.

Byddaf yn trafod sut rydym wedi adeiladu map Cymraeg o Gymru, pa heriau technegol a heriau eraill rydym wedi’u hwynebu, beth fydd y camau nesaf, ac yn rhannu ein gweledigaeth gyffredinol ar gyfer mynd â mapio yn Gymraeg i bawb.

Gobeithio bydd rhywun yn cael eu hysbrydoli i gyfrannu at fapio yn y Gymraeg neu OpenStreetMap fel prosiect ehangach, neu ddechrau menter eu hunain – efallai ar gyfer iaith arall sydd â llai o adnoddau.

Dw i newydd glywed bod nifer isel o docynnau ar ôl i gangen Caerdydd o’r digwyddiad. Bydd modd i chi wylio’r recordiad wedyn fel opsiwn arall.

Categorïau
Canllawiau Digwyddiadau

FIDEO: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Hei! Dyma’r fideo o Weithdy Mapio Cymru ar 5ed Awst 2021 yn ystod Eisteddfod AmGen.

Yn fras dyma raglen y fideo yn ôl codau amser – gydag ambell i ddolen berthnasol:

  • 0:00 Cyflwyniad i brosiect Mapio Cymru ac OpenStreetMap
  • 18:00 Map o leoliadau Eisteddfod Genedlaethol
  • 25:00 Cyflwyniad i’n defnydd o Wikidata
  • 32:00 Helpwch gyflawni’r rhestr o adeiliadau rhestredig Gradd I yng Nghymru (dal angen help ar y rhestr plîs!)
  • 46:35 Sgwrs gyffredinol: am enwau caeau, lle i roi enwau, a phwysigrwydd dosbarthu enwau dan drwyddedau rhydd ar gyfer y dyfodol

Diolch o galon i Eisteddfod AmGen a’r Lle Hanes am y croeso, ac wrth gwrs i bawb a gymerodd rhan yn y gweithdy!

Categorïau
Digwyddiadau

Dewch i Weithdy Mapio Cymru, Y Lle Hanes, Eisteddfod AmGen 2021

DIWEDDARIAD: Dyma fideo y digwyddiad.

Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg.

Mae’r gwaith yn berthnasol i addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned – a hanes.

Bydd y trefnwyr yn disgrifio sut mae’r prosiect yn manteisio ar adnoddau agored a rhydd ar y we megis OpenStreetMap a Wicipedia/Wikidata, a’r hyn rydych chi’n gallu gwneud i gymryd rhan yn yr hwyl.

Nid oes angen unrhyw brofiad na dealltwriaeth o flaen llaw, dim ond chwilfrydedd!

dydd Iau 5ed Awst 2021
3PM tan 4PM
https://eisteddfod.zoom.us/j/5795483521?pwd=UTlwemdaa0pMU1VGSWw4aU93UmVKQT09
ID: 579 548 3521
Cyfrinair: 674244

Mae’r gweithdy Zoom hwn wedi ei drefnu gan brosiect Mapio Cymru mewn cydweithrediad â’r Lle Hanes.