Mae cwpl o bobl wedi gofyn i mi sut i ddefnyddio Mapio Cymru fel map sylfaen ar eu gwefannau, apiau, a systemau eraill. Mae hyn yn ffordd dda o ddarparu map o Gymru yn Gymraeg i ymwelwyr i’ch gwefan.
Yn y bôn maen nhw eisiau dangos ein teiliau map, sef y delweddau PNG sydd ar gael trwy openstreetmap.cymru.
Wedyn rydych chi’n gallu gwneud beth bynnag y mae’ch system yn caniatau megis panio, chwyddo, ac hyd yn oed rhoi piniau, siapiau, delweddau a phethau eraill ar y map.
Mewnosod
Cyn i ni fwrw ymlaen, mae’r hyn sy’n dilyn wedi’i anelu at rywun sydd yn gyfforddus i godio, cynnal system, neu ddefnyddio meddalwedd system gwybodaeth ddaearyddol.
Os NAD ydych chi eisiau trafferthu gyda ffyrdd o osod map sylfaen mae modd mewnosod Mapio Cymru ar wefan. Dyma’r ffordd mwyaf gyflym a syml siŵr o fod. Mae’n debyg iawn i’r ffordd byddai rhywun yn mewnosod chwaraewyr fideos ac ati (trwy iframe).
Ewch i openstreetmap.cymru a chliciwch Rhannu am fanylion ar sut i wneud hyn. Rydych chi’n gallu cael cod mewnosod HTML neu ddolen uniongyrchol at olygfa benodol o’r map.
Pa systemau?
Bydd gweddill y blogiad yma yn cyflwyno sut i osod Mapio Cymru fel map sylfaen – i bobl sydd eisiau bod ychydig yn fwy technegol.
Mae eithaf tipyn o systemau sydd yn cynnig gosod map sylfaen o’ch dewis, megis llawer o bethau sydd yn rhedeg Leaflet.js, e.e. Overpass Turbo.
Er enghraifft mae ambell i ategyn WordPress sydd yn eich hwyluso dangos mapiau ar eich gwefan – megis Leaflet Maps Marker, WP Go Maps, ac eraill.
Os oes gennych y sgiliau gallech chi greu gwefan o’r newydd gyda Leaflet.js a defnyddio Mapio Cymru fel sylfaen. Yn anffodus mae’r manylion ar sut i wneud hyn yn mynd tu hwnt i’r canllaw bach yma heddiw, ond mae canllawiau ar y we!
Mae hefyd meddalwedd pen bwrdd sydd yn defnyddio mapiau sylfaen o’ch dewis megis QGIS.
I rai sydd â diddordeb mae penynnau CORS gweinydd Mapio Cymru bellach yn caniatau defnydd uniongyrchol o deiliau. Nodwch fod rhai systemau rheoli cynnwys yn dangos rhybudd diogelwch am sgriptio traws-wefan (‘cross-site scripting’) yn yr achos yma.
Y gosodiadau hollbwysig
Defnyddiwch y cyfeiriad isod fel y map sylfaen neu ‘base map’:
https://openstreetmap.cymru/osm_tiles/{z}/{x}/{y}.png
Hefyd os oes rhaid rhoi lefelau o chwyddo, rhowch 3 fel y lleiafswm a 16 fel y mwyafswm.
Dyma briodoliad neu gredit dylech chi roi er mwyn cydymffurfio ag amodau trwyddedu agored data OpenStreetMap. Dyma’r fersiwn HTML:
Defnyddiwch <a href=”https://www.openstreetmap.cymru” target=”_blank”>openstreetmap.cymru</a>. Data ar y map Ⓗ Cyfranwyr <a href=”https://openstreetmap.org” target=”_blank”>osm.org</a>
Fel arall dyma’r fersiwn testun plaen:
Defnyddiwch openstreetmap.cymru. Data ar y map © Cyfranwyr osm.org
Rhannwch
Os ydych chi wedi llwyddo i gael y map ar eich gwefan neu system, gadewch sylw gyda’r dulliau rydych chi’n defnyddio os gwelwch yn dda – a dolen i’r tudalen penodol ar eich gwefan os oes modd.
Termau
Byddwch yn barchus a rhesymol gyda eich defnydd o weinydd Mapio Cymru. Cysylltwch os ydych chi eisiau trafod defnydd ‘mawr’ ohonom fel gwasanaeth dibynadwy, yn enwedig os ydych chi’n sefydliad neu brosiect sylweddol.
Bydd rhaid i ni adolygu sut mae hyn yn mynd os fydd yr alw yn tyfu.